Profiadau Celfyddydol a Diwylliannol Eryri

Fel rhoi’r eisin ar y gacen, neu’r halen a’r finegr ar y sglodion, mae profi mymryn o ddiwylliant a chelfyddyd ardal yn rhoi gwell blas i chi o gymeriad lleoliad arbennig. Felly, wrth ymweld ac Eryr,i ceisiwch bupro’ch amserlen gyda’r seigiau sydd i ddilyn. 

Nant Gwrtheyrn

Un o drysorau Pen Llŷn yw Nant Gwrtheyrn. Dyma sgerbwd pentref chwarelyddol wedi ei atgyfodi’n ganolfan gyda sawl gwedd i’w fwynhau.  Mae’r Nant yn garreg filltir ysblennydd ar daith Llwybr yr Arfordir, neu un o deithiau cerdded cylchol poblogaidd yr ardal.

Llwybr Arfordir Cymru, Nant Gwrtheyrn

 

Ymlwybrywch i lawr i’r cwm hudolus am gyfle i fynd i’r afael go iawn â’r Gymraeg. Mae’r Nant yn cynnig cyrsiau dysgu Cymraeg ar gyfer pob lefel. Mae yma lety hunan-ddarpar neu wely a brecwast ar gyfer grwpiau mawr neu lai.

Mae Caffi Meinir ar y safle yn cynnig lleoliad gogoneddus i fwynhau’ch cinio yn gynulleidfa i’r môr yn ei holl ogoniant. Cofiwch bod croeso i gŵn yn y llety a’r caffi!

Caffi Meinir, Nant Gwrtheyrn


Yn y Nant hefyd mae Canolfan Dreftadaeth sy’n rhoi gwybodaeth a chyfle i chi brofi chwedloniaeth a hanes y lleoliad cwbwl unigryw yma. Mae’r Nant yn cynnal digwyddiadau celfyddydol gan gynnwys gigs, perfformiadau theatrig a ffeiriau crefft yn achlysurol iawn felly mae’n syniad cadw llygaid ar y digwyddiadur. Ond os mai cerddoriaeth Gymraeg, sgwrs a pheint o rywbeth lleol rydych chi’n ei awchu, yna ewch i’r pentref agosaf, Llithfaen ac i’r dafarn gymunedol, Y Fic. Lleoliad perffaith i gael hoe gyda’r plant hefyd. Mae parc chwarae da wrth faes parcio’r dafarn a lle i chithau eistedd i fwynhau diod.

Nefyn

Pe baech yn gyrru ar hyd y ffordd o Lithfaen, drwy Bistyll fe ddowch wyneb yn wyneb ac un o olygfeydd harddaf yr ardal. Bydd y môr yn eich denu i edrych draw dros fae Nefyn tuag at Borthdinllaen. Cyn i chi gyrraedd Nefyn mae Caffi Ni a maes Carafanau Y Wern; dyma le croesawgar agored ar gyfer mwynhau pryd o fwyd, te bach neu ddim ond paned a thamaid. Mae lle i eistedd tu mewn, ac ar ddiwrnod braf mae digon o le y tu allan hefyd. Ond yn Nefyn ei hun, dilynwch yr arwydd brown gyda’r llun angor arno er mwyn cael eich arwain i Amgueddfa Forwrol Llŷn. Dyma’r lle i gael blas go iawn ar yr heli sy’n gymaint o ran o gymeriad Nefyn a’r ardal. Mae arddangosfeydd, digwyddiadau i’r gymuned a chroeso cynnes i’w gael yn yr hen eglwys. Yma hefyd mae sgerbwd hynafol yn gorwedd sydd wedi tanio dychymyg a thrafodaeth ar bwysigrwydd diwylliannol a gwleidyddol Nefyn ers oes y Tywysogion.

Mae Llwybr Cerdded y Morwyr sy’n croesi’r penrhyn o Abersoch yn cyrraedd Nefyn a Llwybr Arfordir Cymru. Mae bysiau cyhoeddus yn rhedeg i Bwllheli ac i Aberdaron drwy Nefyn a bws i Bwllheli drwy Lithfaen hefyd, neu beth am fanteisio ar wasanaeth gwych Bws Fflecsi Llŷn? Mae’r dref yn ganolbwynt da i archwilio’r ardal. Mae Gwesty Nanhoron, tafarn gymunedol Yr Heliwr, bythynod gwyliau a maesydd gwersylla yn cynnig amrywiaeth o lety.

Amgueddfa Morwrol Llŷn Maritime Museum


Mae Nant Gwrtheyrn ac Amgueddfa Forwrol Llŷn yn safleoedd yr Ecoamgueddfa sef endid ddigidol sy’n wifren gyswllt rhwng sawl sefydliad ar Benrhyn Llŷn, yn hyrwyddo a dathlu iaith, diwylliant a threftadaeth. Mae sawl safle yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i brofi’r diwylliant, mae posib mynd ar wefan yr Ecoamgueddfa i gael y wybodaeth yn llawn ond pe taech chi’n mynd i Aberdaron a’r cyffuniau, fe ddowch ar draws sawl safle unigryw sy’n dod o dan faner yr Ecoamgueddfa.

Aberdaron

Mae Plas Carmel yn Anelog ger Aberdaron yn brosiect cymunedol sydd wedi rhoi bywyd newydd i hen safle Capel Carmel a Siop y Plas. Dathlu’r dreftadaeth leol mae nhw yma drwy blethu hanes daearegol, chwedloniaeth a chymeriadau cofiadwy fel Dic Aberdaron. Mae’r straeon sy’n cael eu hadrodd yma yn deffro gwedd newydd ar y filltir sgwâr. Cewch gyfle i ystyried a thrafod y cyfan yng Nghaffi Siop y Plas sy’n cynnig naws gysurus, panad dda a bwyd tymhorol o gynnyrch lleol. Mae digwyddiadau achlysurol yn cael eu cynnal yma hefyd fel nosweithiau barddol, lansiadau llenyddol a gigiau hamddenol.

Ym mhentref Aberdaron ei hun mae canolfan Porth y Swnt ger maes parcio eang Henfaes yn safle arall i roi sylfaen ddifyr i chi o wreiddiau’r ardal. Yma, cewch daith wedi ei dehongli drwy gelf a barddoniaeth leol. Byddwch yn teithio o’r ‘Dwfn’ atmosfferig i’r ‘Golau’.  Bydd y profiad yma yn saff o gyfoethogi’ch ymweliad, cyn i chi fynd ymlaen i’r pentref i fwynhau’r dewis da o lefydd bwyta gan gynnwys siop sglodion gampus, Sblash. Cadwch lygaid ar eu hysbysfwrdd – mae’r pysgotwyr lleol yn cario crancod a chimychiaid yn syth yma o’r môr ambell ddiwrnod. Mae sawl caffi, becws, siopau a dwy dafarn chwaethus, Y Ship a Tŷ Newydd hefyd, pob un â digon o awyrgylch lleol, draddodiadol. Mae’r eglwys ger y traeth, Eglwys Sant Hywyn, yn agored i’r cyhoedd yn ystod y dydd. Gallwch fynd yno i gael hanes perthynas y bardd R.S.Thomas â’r eglwys a’r ardal. Cadwch lygaid am gyfle i fwynhau profiad iasol o gyngerdd cerddorol yn yr eglwys o bryd i’w gilydd.

Mae tair ffordd yn cyfarfod ei gilydd ym mhentref Aberdaron. Mae un yn eich arwain tuag at Anelog a Phlas Carmel, mae un arall yn mynd tuag at bentref a mynydd Y Rhiw. Mae Plas yn Rhiw yn safle Ecoamgueddfa. Dyma gyfle prin ar y penrhyn i fwynhau llwybrau o dan y coed. Mae gerddi’r plas, y goedwig a gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gael i’w profi yma a chaffi tê bach gwerth chweil yn edrych draw dros Borth Neigwl. 

Ond pe taech yn dilyn y ffordd fawr o Aberdaron a thrwy ardal Rhoshirwaun mae safle arall sy’n perthyn i’r Ecoamgueddfa sef canolfan addysgu holistig Felin Uchaf. Mae’r fenter gymdeithasol yma yn rhoi amrywiaeth o brofiadu i chi gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys gŵyl chwedleua ddiwedd yr haf. Dyma gyfle prin i ymgasglu o gylch y tân mewn tŷ crwn llawn naws hynafol i wrando ar chwedlau difyr yr oes a fu. Mae dosbarthiadau celf, crefft a symud yn cael eu cynnal yma, yn ogystal â phrosiectau ymarferol yn ymwneud â’r tir. Mae’r caffi, sy’n llawn ysbryd naturiol y tirlun, yn cynnig bwyd cartref ar benwythnosau ac mae’r siop ar agor pob dydd.

Llanbedrog

Yn nes at Bwllheli, ym mhentref Llanbedrog mae un o orielau enwocaf Cymru, Oriel Plas Glyn y Weddw sydd bellach yn Ganolfan Gelfyddydau hefyd. Mae’r plasdy wedi ei drawsnewid yn oriel gelf sy’n cynnig cartref i nifer o weithiau trawiadol gan artisitaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys Iwan Bala, William Selwyn a Bronwyn Williams-Ellis. Mae’r oriel yn gweithio’n galed i amrywio arddangosfeydd gydag uchelgais. Yn aml ceir arddangosfa dros dro sy’n cynnig mewnwelediad i ddiwylliant lleol gan archwilio’r dehongliad celfyddydol. Gellir yn hawdd treulio diwrnod yma i fwynhau bwydlen y caffi trawiadol, yr oriel a llwybrau’r winllan sy’n eich arwain i gopa Mynydd Tir Cwmwd lle saif cerflun Y Dyn Haearn. Yma hefyd mae amffitheatr awyr agored o’r safon uchaf gyda môr bae Llanbedrog yn gefnlen godidog. Ceir perfformiadau addas i’r teulu cyfan yma’n aml, yn enwedig yn yr haf. Mae’r oriel a’r amffitheatr yn ofodau aml-bwrpas sy’n cynnig cyfle i gynnal gweithdai a thrafodaethau. Cadwch lygaid ar eu digwyddiadur wrth gynllunio eich ymweliad.

Llanystumdwy

Rhwng Pwllheli a Chricieth mae pentref Llanystumdwy, pentref bach gyda hanes mawr. Dyma lle magwyd David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain rhwng 1916 a 1922. Mae amgueddfa fechan yn y pentref i fwynhau hanes y dyn dylanwadol, ond yn y coed ger y pentref mewn tŷ mawr lle bu Lloyd George yn byw am gyfnod, mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Mae cyrsiau ysgrifennu ar gael yma trwy gydol y flwyddyn. Mae hefyd ar gael i’w logi ar gyfer gwyliau, encil neu brosiectau eraill. Mae’r cartref yma yn llawn heddwch, ysbrydoliaeth a harddwch. Mae nifer o enwau mawr y byd llenyddol yng Nghymru yn canu clodydd y ganolfan arbennig yma. Gellir cerdded ar hyd llwybr o’r ardd i lawr at yr arfordir ac ymuno â Llwybr Arfordir Cymru. Mae posib hefyd cerdded i lawr i’r pentref ac i dafarn gymunedol Y Plu. Mae nifer o ddigwyddiadau Cymraeg yn cael eu cynnal yma gan gynnwys gigs, comedi a nosweithiau barddol. Cewch brofi amrywiaeth o ddiwylliant byw Eryri a chael eich ysbrydoli yn y pentref bychan yma.

Ty Newydd Writing Centre © Hawlfraint y Goron © Crown copyright (2024) Cymru Wales

Bangor

Mae Bangor yn ganolbwynt i Eryri ac er mai ‘Dinas Dysg’ yw arwyddair y ddinas sy’n gartref i Prifysgol Bangor, mae hi hefyd yn ymfalchîo yn ei diwylliant. Mae Pontio yn ganolfan theatr gydag amrywiaeth o adnoddau i fwynhau’r celfyddydau yn eu amrywiol ffyrdd. Mae sinema yma, stiwdio ar gyfer cynhyrchiadau llai, adnoddau i gynnal gweithdai a theatr fawr ar gyfer y perfformiadau mwy. Mae’n ganolfan hygyrch gyda’r adnoddau gorau a digwyddiadau cyson. Mae bar Ffynnon yn y fynedfa yn berffaith i dorri’r syched cyn sioe a bwyty Cegin i dorri’r awch.

Mae Bangor hefyd yn gartref i Storiel, amgueddfa ac oriel gelf yng nghanol y ddinas. Mae ganddi raglen fywiog o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn. Mae yma arddangosfa barhaol hefyd i roi syniad i chi o fywyd yng Ngwynedd dros y blynyddoedd.

Gellir cyrraedd Bangor ar y trên o gyfeiriad Sir Fôn neu arfordir gogleddol Cymru, mae Pontio a Storiel o fewn pellter cerdded i’r orsaf. Mae bysiau cyhoeddus hefyd yn cyrraedd yn agos atynt. O ran parcio, mae’n rhaid defnyddio meysydd parcio cyhoeddus y ddinas ar gyfer cyrraedd y ddau leoliad. Mae Bangor hefyd yn ddinas rhwydd i feiciau gyda llwybr seiclo Lôn Las Menai yn cyrraedd y ddinas a digon o rheiliau i gloi beiciau.

Mae Eryri yn llawn cymunedau sy’n falch o’u diwylliant Cymreig a Chymraeg ac mae’r ardal yn llawn cymdeithasau ac unigolion gweithgar ym myd y celfyddydau. Felly peidiwch a synnu dim os y dewch ar draws digwyddiad neu fenter gelfyddydol yn y llefydd mwyaf annisgwyl wrth i chi archwilio’r ardal. Cymerwch ran, cefnogwch ac yn fwy na dim, mwynhewch y wledd. 

Canolfannau Mwy 

Mae canolfannau mwy yr ardal fel Neuadd Goffa Criccieth, Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli a Galeri, Caernarfon yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau ar draws y celfyddydau. Mae’n bosib y byddwch yn lwcus wrth amseru eich ymweliad yr un pryd â rhai o’r gigau Cymraeg achlysurol sy’n digwydd yn y neuadd ysblennydd Cricieth. Neu mae Neuadd Dwyfor a Galeri yn ganolfannau sy’n cynnal gweithgarwch a pherfformiadau yn gyson, gan gynnwys sinema. Draw yn Nolgellau wedyn mae Tŷ Siamas sydd wedi ei leoli yn un o brif adeiladau hynafol y dref yn cynnig ystod eang o ddigwyddiadau cerddorol lleol. A draw Y Bala mae Theatr Derek Williams yn dod â ffilmiau, dramau, cerddoriaeth fyw a gweithdai o bob math i’r ardal. Wrth gynlluno ymweliad â’r trefi bywiog yma rhowch glic ar wefannau y canolfannau hyn.

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU 200