Plas yn Dre
Mewn lleoliad cyfleus ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae Plas yn Dre yn darparu bwyd rhagorol i'w fwynhau ac a gynhyrchir o gynhwysion lleol. Mae bar snug trwyddedig llawn, lolfa, llyfrgell hamddenol a bwyty yn darparu'r llefydd delfrydol i ymlacio ar ôl diwrnod prysur yn crwydro Eryri. Mae'r ystafell fwyta wedi'w chynllunio i fod yn hamddenol ac anffurfiol. Mae'r ystafell wedi'i llenwi â byrddau a chadeiriau hynafol. Ategwch eich pryd gyda gwydraid o win o'r rhestr win helaeth neu beint o gwrw go iawn o'r dewis helaeth o gwrw lleol. Mae'r holl fwyd yn cael ei baratoi'n ffres gan y tîm o gogyddion profiadol. Maent yn ymfalchïo yn eu gwaith ac yn sicrhau ei fod yn blasu hyd yn oed yn well nag mae o'n edrych. Dim ond y cynhwysion gorau sy'n cael eu defnyddio, wedi'w cyrchu'n lleol pryd bynnag y bo modd. Mae'r fwydlen yn arddangos safon uchel y cigoedd a gynhyrchir yn lleol, ac mae'r bwydlenni'n newid yn rheolaidd i ddefnyddio'r cynnyrch o'r ansawdd gorau sydd ar gael yn dymhorol .
Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda yn yr ardaloedd cymunedol.
Gwobrau
Mwynderau
- Croeso i bartion bws
- Cadair uchel ar gael
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- Darperir ar gyfer deiet arbennig
- Dim ysmygu o gwbl
- Siaradir Cymraeg
- WiFi ar gael
- Parcio
- Derbynnir cardiau credyd
- Yn agos i gludiant cyhoeddus