Llefydd i fwyta
Caffi Blas Y Waun
Mae Caffi Blas y Waun yn darparu bwyd blasus a chroeso cynnes! Mae'r caffi wedi ei leoli ar safle Antur Waunfawr, yng nghanol gerddi prydferth. Mae yma hefyd siop grefftau yn gwerthu anrhegion, a pharc chwarae hygyrch.
Y Castell
Mae Gwesty Y Castell ar y sgwâr yng nghanol tref hanesyddol Caernarfon. Mwynhewch olygfeydd o Gastell Caernarfon wrth gael coffi, diod neu ginio ysgafn. Mae llawer o atyniadau twristaidd Caernarfon ond tafliad carreg i ffwrdd.
Te a Cofi
Mae Te a Cofi yn gaffi sydd ar agor i’r cyhoedd ac ar yr un pryd yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc yn y maes arlwyo.
Gwesty'r Celt
Prydau cyfoes sy'n cael eu creu gan ddefnyddio cynhwysion ffres, Cymreig lle bynnag y bo modd - mae bwyta yng Ngwesty'r Celtic Royal bob amser yn brofiad hamddenol ond gwerth chweil.
Tŷ Gwledig Ty'n Rhos
Croeso i fwyty Ty'n Rhos, sy'n edrych dros deras a gerddi hardd, ac yn cynnig golygfeydd panoramig tuag at Ynys Môn.
Yr Hen Lys
Mae'r Hen Lys yn fwyty safonol a lleoliad cerddoriaeth fyw yng nghanol Caernarfon. Mae'n adeilad o bwysigrwydd pensaernïol rhagorol, gyda llawer o'r nodweddion gwreiddiol heb newid.