Atyniadau
Castell Dolwyddelan
Atyniadau
Caer ysblennydd o'r 13eg ganrif, a adeiladwyd gan Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, a llywodraethwr y rhan fwyaf o Gymru, mae Castell Dolwyddelan yn sefyll ar fryncyn creigiog yn nyffryn darluniadol Lledr rhwng Betws-y-Coed a Blaenau Ffestiniog.
Nomad
Darparwr Gweithgareddau
Mae Nomad yn cynnig encilfeydd, i oedolion, wedi'u lleoli yn ymylon gwylltiroedd Eryri. Mae Nomad yn brofiad preswyl cynhwysfawr, gyda llety cynfas clyd a bwyd swmpus bendigedig wedi'i goginio dros y tân. Maent yn edrych ar eich hôl go iawn!
Plas yn Rhiw
Atyniadau
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld.
Pont Minllyn
Atyniadau
Pont gul ar draws Afon Dyfi yn Ninas Mawddwy. Adeiladwyd gan Dr John Davies ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg.