Atyniadau
Beacon Climbing Centre
Gweithgaredd, Atyniadau
Beth bynnag fo'r tywydd, dewch i ddringo! Mae Canolfan Dringo Beacon yn lleoliad cyffrous ym mhob tywydd, gyda gweithgareddau hwyliog yn addas i'r teulu cyfan.
Beics Antur
Gweithgaredd, Darparwr Gweithgareddau
Mae gan Beics Antur ddewis helaeth o feiciau merched, dynion a phlant i'w llogi, yn ogystal â beiciau addasol.
Beics Ogwen
Gweithgaredd
Mae Beics Ogwen yn rhan o Dyffryn Gwyrdd, prosiect tair blynedd a ariennir gan y loteri, a weinyddir gan Bartneriaeth Ogwen.
Clwb Golff St. Deiniol Bangor
Gweithgaredd
Ystyrir Clwb Golff St Deiniol Bangor yn un o'r prif gyrsiau golff yng Ngogledd Cymru. Mae'r cwrs yn edrych dros ddinas Bangor gyda golygfeydd bendigedig o Ynys Môn, Eryri ac arfordir Gogledd Cymru.
Clwb Golff Caernarfon
Gweithgaredd
Wedi'i leoli ar lan Afon Menai gyda mynyddoedd Eryri yn gefndir, mae gan Glwb Golff Caernarfon rai o'r golygfeydd gorau o unrhyw gwrs golff. Mae'r cwrs yn un parcdir 18 twll, gyda'r ffyrdd clir gwyrddlas a'r griniau pytio yn rhedeg yn llyfn.
Maes Awyr Caernarfon
Gweithgaredd, Darparwr Gweithgareddau
Teithiau hedfan gyda golygfeydd syfrdanol dros Gastell Caernarfon ac Afon Menai.