Atyniadau
Castell Penrhyn
Atyniadau
Mae'r castell anferthol neo-Normanaidd yma, o'r 19ed ganrif, wedi ei leoli rhwng Eryri a'r Afon Menai.
Castell Cricieth
Atyniadau
Mae’n safle nodedig, tystiolaeth wirioneddol i ffawd amrywiol rhyfel. Am ddarlun, am olygfa! Saif y castell ar bentir gyda’r môr yn gymar cyson iddo. Byddai ei borthdy â’i ddau dŵr wedi peri cryn ofn i unrhyw ymosodwr.
Cilan Riding Centre
Darparwr Gweithgareddau
Canolfan marchogaeth wedi ei sefydlu ers peth amser, mae'r holl farchogaeth yn digwydd ar Drwyn Cilan ysblennydd, 3 milltir o ganol pentref Abersoch, ar Benrhyn Llŷn, yng Ngwynedd.
Dyfi Distillery
Atyniadau
Distyllfa jin unigryw yng Ngwarchodfa Biosffer UNESCO Dyfi. Yr unig ddistyllfa sydd wedi ennill Gwobr Jin Prydeinig Gorau yng Ngwobrau Bwyd Prydain Fawr ddwywaith, ac yn gartref i'r jin Pollination ac i'r jin Hibernation.
Fairbourne Railway
Atyniadau
Dyma’r rheilffordd lein gul leiaf yng Nghymru, gyda thrac sy’n mesur dim ond 12¼ modfedd.
Gardd Fotaneg Treborth
Atyniadau
Yn berchen gan Brifysgol Bangor mae'r gerddi yn cael eu defnyddio fel adnodd ar gyfer addysgu, ymchwil ac ymgysylltu â'r cyhoedd a mwynhad.