Atyniadau
Amgueddfa’r Rheilffyrdd Bach Cul
Atyniadau
Darganfyddwch fyd y lein fach, o’r locomotif stêm diwydiannol i swyn rheilffyrdd gwledig Iwerddon. Dysgwch am y Parchedig Awdry a’i straeon rheilffordd i blant.
Amgueddfa Lechi Cymru
Atyniadau
Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai Fictoraidd hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir. Yma, gallwch deithio nôl i weld gorffennol diwydiant a ffordd o fyw sydd bellach yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru.
Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
Atyniadau
Mae’r Amgueddfa wedi’i lleoli mewn dau dŵr yng Nghastell Caernarfon.
Amgueddfa Forwrol Llŷn
Atyniadau
Mae gan Amgueddfa Forwrol Llŷn gasgliad diddorol o tua 400 o arteffactau cysylltiedig â’r môr a hanes tref Nefyn a’r cylch, yn cynnwys lluniau, creiriau, modelau, cychod, angorau, ffotograffau a dogfennau.Mae yna arteffactau o longddrylliadau er e
Amgueddfa'r Môr Porthmadog
Atyniadau
Roedd harbwr prysur Porthmadog hyd yn oed yn fwy o dan ei sang 150 mlynedd yn ôl. Dewch i ddarganfod pam yn yr amgueddfa hon, sy’n adrodd stori’r gwaith adeiladu llongau yn y porthladd a’r cyfnod pan oedd y gwaith o allforio llechi yn ei anterth.
Beics Antur
Gweithgaredd, Darparwr Gweithgareddau
Mae gan Beics Antur ddewis helaeth o feiciau merched, dynion a phlant i'w llogi, yn ogystal â beiciau addasol.