Atyniadau

Abaty Cymer
Atyniadau
Olion sylweddol eglwys abaty Sistersaidd syml a sefydlwyd ym 1198 gan Maredudd ap Cynan.

Aberconwy House
Atyniadau
Tŷ masnachwr o'r 14eg ganrif, Tŷ Aberconwy yw'r unig dŷ masnachol canoloesol yng Nghonwy i oroesi bron i chwe canrif o hanes cythryblus y dref.

Abersoch Sailing School
Darparwr Gweithgareddau
Dysgwch sut i hwylio, naill ai ar gwrs neu wers unigol gyda hyfforddwyr cymwysedig RYA cyfeillgar.

Activities In Snowdonia
Darparwr Gweithgareddau
Mae Activities in Snowdonia yn cynnig ystod eang o weithgareddau awyr agored, y gellir eu teilwra i weddu i'r unigolyn neu'r grŵp.

Amgueddfa Awyrennol Caernarfon Airworld
Atyniadau
Wedi ei leoli ar gyn faes awyr yr RAF Llandwrog, mae gan yr amgueddfa gasgliad trawiadol o awyrennau a phethau cofiadwy awyrennu, gan gynnwys D.H. Vampire, Hawker Hunter F1, Hawker Sea Hawk, Westland Whirlwind a BAe Harrier.