Atyniadau
Canyon Cymru
Darparwr Gweithgareddau
P'un a ydych chi'n deulu'n chwilio am antur neu mwynhau gweithgareddau cyffrous, eithafol, Canyon Cymru yw'r lle i chi. Mae ein ceunentydd, sydd wedi'u lleoli yn rhanbarthau prydferth, mynyddig Cymru, yn cynnig parc dŵr natur ei hun.
Clwb Golff Abersoch
Gweithgaredd
Mae enw da iawn i gwrs golff Abersoch am yr her y mae'n ei ddarparu, y golygfeydd a welir oddi yno, a'r croeso yn y clwb. Wedi'i gysgodi gan Ben Llŷn, yn wynebu Bae Ceredigion a gyda mynyddoedd Eryri yn y cefndir, mae'n lleoliad gwych.
Gwersyll yr Urdd Glan-Llyn
Darparwr Gweithgareddau
Mae Gwersyll Glan-Llyn yn ganolfan addysg awyr agored wedi'i leoli ar lannau Llyn Tegid ger Y Bala.
Nomad
Darparwr Gweithgareddau
Mae Nomad yn cynnig encilfeydd, i oedolion, wedi'u lleoli yn ymylon gwylltiroedd Eryri. Mae Nomad yn brofiad preswyl cynhwysfawr, gyda llety cynfas clyd a bwyd swmpus bendigedig wedi'i goginio dros y tân. Maent yn edrych ar eich hôl go iawn!
Portmeirion
Atyniadau
Creadigaeth y pensaer Clough Williams-Ellis yw Portmeirion. Yn ogystal a'i bensaerniaeth eiconig, amgylcheddau golygfaol a geddi gwyllt eang, mae'r pentref yn gartref i ddau westy hip, clwster o fythynnod hanesol, sba a bwytai arobryn.