Pethau Plant
Mae gwyliau teuluol hapus yn dibynnu ar ychydig o gynhwysion hanfodol. Mae'n rhaid bod digon o bethau i blant eu gweld a'u gwneud (heb anghofio am yr oedolion sydd gyda nhw). Mae angen digonedd o awyr iach a lle yn yr awyr agored, ynghyd â gweithgareddau dan do rhag ofn nad yw'r tywydd yn deg. Dylai popeth hefyd fod yn hygyrch ac mor ddidrafferth â phosib, heb fod yn ddrud.
Er mai dim ond un rhan o Eryri ydyw, mae Pen Llŷn, Cricieth, Porthmadog a Bro Ffestiniog yn ateb yr holl ofynion hyn yn hawdd. Dyma le ble gall diwrnod allan gynnwys profiadau antur, traethau ac atyniadau treftadaeth o safon fyd-eang - i gyd mewn pecyn cryno a hawdd ei dreulio.
Gyda chymaint o gyfoeth o ddewisiadau, byddwch yn creu atgofion o'r eiliad y dewch yma. Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i lunio taith fydd yn plesio pob aelod o'r teulu.
I fyny ac i lawr
Mae digonedd o anturiaethau uwchben ac o dan y ddaear yn Zip World Llechwedd, a leolir yng nghyn chwareli llechi enfawr Blaenau Ffestiniog. Am brofiad teuluol na fyddwch byth yn ei anghofio rydym yn argymell eich bod yn teithio drwy'r awyr ar Titan 2, gwifren wib gyfochrog pedwar person gyntaf Ewrop, sy'n eich cludo drwy'r awyr am 0.6 milltir/1km uwchben tirlun y chwarel.
Mae'r daith hon, fydd yn codi gwallt eich pen, yn cychwyn mewn tryc byddin wedi'i ail bwrpasu uwchben y dirwedd greigiog gan eich cludo i'r man dechrau. Dyma gyfle i godi uwchben tirlun gorffennol diwydiannol cyfoethog Blaenau Ffestiniog, a gyfrannodd at ogledd-orllewin Cymru yn ennill statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO am ei thirweddau llechi.
Os yw Titan 2 yn ormod, gallwch hefyd ddewis taith fyrrach ar Big Red, cyflwyniad i wibio ar weiren sydd ar raddfa ychydig yn llai.
Ond mae hyd yn oed mwy i'w weld pan fyddwch yn mentro o dan y ddaear a phlymio i'r dyfnderoedd (mewn mwy nag un ffordd) a gweld treftadaeth gymdeithasol a diwydiannol Blaenau Ffestiniog. Byddwch yn cychwyn y daith drwy fynd i lawr ar y rheilffordd cebl fwyaf serth yn Ewrop, mae'r Daith Pwll Dwfn yn mynd â chi drwy'r ceudyllau a naddwyd gan fwyngloddwyr o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ychwanegir at yr amgylchedd atmosfferig dan ddaear a straeon personol bywyd yn y chwarel gan oleuadau a synau atgofus.
Os ydych chi'n chwilio am rywbeth ychydig yn fwy anturus, mae Bounce Below ar gael. Yma ceir rhwydwaith liwgar a llachar o rwydi a thrampolinau wedi eu gosod ar draws ceudwll o faint Cadeirlan Sant Paul, mae yn brofiad unigryw i blant ac oedolion sy'n mwynhau hwyl.
Fel arall, beth am ymarfer eich golff danddaear yn Zip World, y cwrs golff antur cyntaf mewn ogof 500tr/152m o dan y ddaear.
Olwynion yn troi
Mae parc beicio Antur Stiniog hefyd yn defnyddio tirwedd garw Blaenau Ffestiniog gyda 14 o lwybrau sy'n igam-ogamu i lawr drwy gyn chwareli'r dref. Er bod y lleoliad wedi cael enw da gyda reidwyr profiadol, mae digon hefyd i ddechreuwyr a beicwyr iau i'w fwynhau.
Mae'r llwybr Plwg a Phlu sy'n rhedeg yn araf a llyfn yn gyflwyniad delfrydol i feicio mynydd (ac yn cysylltu gyda dau lwybr mwy heriol y gallwch eu mwynhau unwaith y byddwch yn teimlo'n hyderus ar y beic). Os ydych eisiau gwella eich sgiliau, gallwch drefnu gwers benodol i'r teulu a gynhelir gan ddarparwr hyfforddi lleol - Pedal MTB.
Ar frys gwyllt!
I blant sydd wrth eu boddau gyda threnau (ac unrhyw oedolyn fu'n berchen ar set trên) mae'n rhaid ymweld â Phorthmadog. Mae tair rheilffordd treftadaeth y dref yn gwneud y dref yn brifddinas trenau bach gogledd Cymru, yn cludo pobl o bob oed sydd wedi gwirioni ar drenau yn ôl i oes mwy rhamantaidd y rheilffyrdd.
Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru yn rhedeg o'r orsaf yn harbwr Porthmadog (i Flaenau Ffestiniog a Chaernarfon yn ôl y drefn). Mae pob taith yn dangos agwedd wahanol o Eryri, o dirwedd llechi UNESCO dramatig gogledd Cymru i bentref tlws Beddgelert a Bwlch trawiadol Aberglaslyn.
Bydd y rhai iau yn eich plith wrth eich boddau yn teithio ar drên sydd fel pe bai'n dod yn syth o dudalennau llyfrau Harry Potter, gyda'r oedolion yn cael cyfle i fwynhau y ffordd arafach o deithio, anghofio am y ffordd, ymlacio a mwynhau'r golygfeydd. Hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu teithio ar y trên, mae'n werth ymweld â'r orsaf i weld yr injans hynafol yn dangos eu hunain.
Gallwch hefyd deithio ar Reilffordd Treftadaeth Ucheldir Cymru, a leolir dros y ffordd o brif orsaf drenau Porthmadog. Mae'r rheilffordd fach hyfryd hon gaiff ei rhedeg yn bennaf gan wirfoddolwyr yn eich cludo am bellter byr i orsaf Pen-y-Mount ac yno gallwch archwilio'r ganolfan dreftadaeth rheilffordd yn ymarferol a mynd am dro ar y rheilffordd fechan.
Brenin y byd
Dringwch i fyny at Gastell Cricieth, a saif mewn lleoliad amlwg uwchben y dref glan môr. Er iddo fod yn adfail ers i Owain Glyndŵr erlyn y preswylwyr Seisnig allan yn 1404, mae ei leoliad amlwg a'i hanes llawn digwyddiadau yn dal i ennyn y dychymyg.
Mae golygfeydd trawiadol dros Fae Ceredigion a rhesi lliwgar tai Cricieth yn gwneud y daith gerdded fer, serth at y castell yn werth chweil, a bydd anturiaethwyr ifanc yn mwynhau archwilio conglau a chilfachau'r castell. Yn ystod y gwanwyn a'r haf daw'r castell yn fyw, gan lwyfannu digwyddiadau fel teithiau tywys, sesiynau dweud straeon a hyd yn oed Ysgol Marchogion, ble gallwch weld arfau canoloesol go iawn.
Mae mwy i Gricieth na dim ond y castell. Ar ôl gorffen yn y castell byddwch mewn lle delfrydol i fwynhau amser ar ddau draeth tywodlyd y dref, sy'n ymestyn bob ochr i lwyfan caregog y castell.
Yn edrych dros y traeth, mae Cricieth Multi Golf, mae'r gair 'multi' yn llaw-fer ar gyfer gweithgareddau teuluol eraill (yn cynnwys caiacio, padlfyrddau a llogi beics) yn ogystal â maes 9 twll a phwt, ffrisbi a golff-droed. Byddwch hefyd eisiau mwynhau hufen iâ - Cadwaladars wrth gwrs, y brand enwog a aned yng Nghricieth bron i 100 mlynedd yn ôl.
Boed law neu hindda
Mae yna hwyl i'w gael beth bynnag yw'r tywydd ym Mharc Glasfryn, ger Pwllheli, gyda'i ddewis helaeth o weithgareddau dan do ac awyr agored. Y tu allan gallwch anelu am y targed gyda saethyddiaeth neu saethu colomennod clai, gyrru ar hyd y trac mewn go-cart neu droi eich llaw i gêm o olff gwallgo.
Efallai y byddwch yn mynd yn wlyb diferol, ond byddwch hefyd eisiau rhoi tro ar ddewis helaeth o chwaraeon dŵr (dim glaw). Ewch ar gaiac neu sefyll ar badl-fwrdd i gael anturiaethau yn y dŵr yn ôl eich pwysau, taflu eich hun i'r cwrs antur 'crash and splash' neu adael i system hwylfyrddio sy'n cael ei yrru ar wifren wneud y gwaith caled gan eich cludo dros y dŵr.
Os yw'n well gennych aros yn hollol sych, mae yno fowlio deg a chanolfan chwarae meddal a hefyd caffi sy'n gweini popeth o fyrbrydau a diodydd i brydau mwy sylweddol - y lle perffaith i ymlacio ac i'r plant flino.
Datgelu Llŷn
Bydd pobl chwilfrydig o bob oed yn darganfod rhywbeth i'w cadw'n ddiddig ym Mhorth y Swnt, canolfan ddehongli arloesol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Aberdaron ar ben gorllewinol Llŷn. Mae'n adrodd hanes natur, daearyddiaeth, pobl a diwylliant y penrhyn trwy ddetholiad o arddangosfeydd rhyngweithiol unigryw.
Ymysg ei atyniadau mae gwaith celf gwydr enfawr a luniwyd o hen fwlb golau cyn oleudy Ynys Enlli - sydd yn enfawr ac yn 8tr/2.4m o uchder. Yma hefyd mae'r Dwfn, taith o dan y môr sy'n eich arwain heibio dau gerflun pren trawiadol, a'r Swnt, gosodiad rhyngweithiol difyr sy'n gadael i chi archwilio a llywio'r llanw sy'n chwyrlio yn Swnt Enlli.

Mae Porth y Swnt hefyd yn llawn gwybodaeth o bethau i'w gweld ac i'w gwneud yn Llŷn. Fe welwch ddigonedd o weithgareddau rhad ac am ddim, yn cynnwys teithiau cerdded natur ar Lwybr Arfordir Cymru, llwybrau beics a dyddiau allan ar amryfal draethau hardd y penrhyn.
Cŵn lwcus
Ni fyddai gwyliau yn wyliau heb eich cyfaill pedair coes. Mae croeso i gŵn yn y rhan hon o Eryri. Mae mwyafrif helaeth y traethau ar hyd yr arfordir yn agored i ymwelwyr blewog (ond dylech wirio'r wybodaeth leol rhag ofn bod unrhyw barthau eithriedig tymhorol).
Mae croeso hefyd i gŵn - wedi'r cyfan maent yn rhan o'r teulu - yn nifer o’n atyniadau i deuluoedd. Gallant ddod gyda chi i fannau fel Castell Cricieth, Parc Glasfryn a Zip World (sydd â gwasanaeth gofal cŵn yn ystod y dydd). Gall cŵn sy'n ymddwyn yn dda hyd yn oed deithio gyda gweddill y teulu ar reilffyrdd hanesyddol Porthmadog.