Petal-á-Pot
Wedi'i lleoli yng Nghanolfan Arddio Abersoch, mae Petal-á-Pot yn ystafell de drwyddedig clyd o arddull Ffrengig sy'n defnyddio'r cynnyrch lleol gorau. Ymysg y cynhwysion sydd wedi dod o ffynonellau lleol mae cawsiau, cig eidion aeddfed gwartheg duon Cymreig, bwyd môr (crancod a chimychiaid wedi eu dal o amgylch Pen Llŷn), bara ac wyau. Pan fo'n bosib, mae nwyddau llysiau a salad yn cael eu tyfu gartref. Mae Petal-á-Pot wedi bod yn adnabyddus ers amser maith am ei de prynhawn traddodiadol, wedi ei weini gyda'u sgons enwog, cacennau cartref a quiches.