Pen Llŷn

Dyma 'Fraich Eryri' neu 'Ben draw Cymru',  neu'r 'Fraich fel Cernyw sy'n ymestyn tua'r gorllewin'. Pa bynnag ffordd yr edrychwch arno, mae'r stribyn 16 milltir/26km yma o dir, yn unigryw, ac yn lleoliad sy'n wahanol hyd yn oed i weddill Cymru.

Mae Llŷn yn gadarnle i ddiwylliant a threftadaeth. Yn ogystal, mae yma hud magnetig sydd wastad yn eich denu. Mae'r arfordir, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn gartref i amrywiaeth o olygfeydd trawiadol mewn ardal gymharol fach - popeth o glogwyni talog gwyntog i harbyrau cysgodol a chlyd, o draethau tywodlyd i bentrefi traddodiadol a chyrchfannau gwyliau ffasiynol. 

Cewch archwilio'r arfordir treftadaeth drwy ddilyn Llwybr Arfordir Cymru. Neu, beth am fynd i syrffio neu hwylio. Neu fynd ar fordaith bywyd gwyllt i'r ynysoedd, yn cynnwys Ynys Enlli, ‘Ynys yr 20,000 o Seintiau’ chwedlonol sy'n noddfa natur i dros 300 rhywogaeth o adar. Mae'r ynys wedi derbyn statws Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol (IDSS) gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA). Dyma’r safle cyntaf yn Ewrop i dderbyn statws o’r fath.

Os ydych chi'n chwilio am lety a phethau i'w gweld a'u gwneud yn ardal Llŷn, yna cliciwch ar y dolenni isod i weld rhestr neu fap. Sgroliwch i lawr y dudalen rhestru i weld beth sydd gerllaw ac i ychwanegu lleoliadau i greu eich Arweinlyfr eich hun.

Llety: Rhestr I Map
Atyniadau/Gweithgareddau: Rhestr I Map
Llefydd i fwyta: Rhestr I Map

Ar y 5-12 o Awst 2023 bydd Llŷn yn gartref i'r dathliad mwyaf lliwgar a bywiog o ddiwylliant a iaith Cymru.  Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.eisteddfod.cymru/llyn-ac-eifionydd-2023

Aberdaron

Mae yna rhywbeth sy'n nodweddiadol Geltaidd am y gymuned fechan hon, sy'n sefyll ar bendraw Llŷn. Efallai mai'r clwstwr o dai a bythynnod gwyngalch yw hyn, neu'r lleoliad, gyda phentir gwyllt Mynydd Mawr yn cadw golwg drosto,  neu'r ffaith fod Aberdaron ei hun yn edrych dros Swnt stormus Enlli a Môr Iwerddon,  neu bod y tywydd - a'r gwyntoedd cryfion - bob amser yn ymddangos eu bod yn chwythu o'r gorllewin.  

Mae Aberdaron ar fin y môr yn crynhoi personoliaeth Llŷn yn berffaith. Mae'r pentref a'r penrhyn yn cyd-fynd yn berffaith, fel y gwelwch pan fyddwch yn ymweld â chanolfan Porth y Swnt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ble caiff treftadaeth ddiwylliannol a hanes Llŷn eu dathlu.    

Os ewch chi rownd y gornel o Aberdaron i un cyfeiriad, gan edrych dros Borth Neigwl, mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol eiddo arall - sef maenordy hyfryd o'r ail ganrif ar bymtheg o'r enw Plas yn Rhiw (bu RS Thomas, y bardd a rheithor Aberdaron ar un adeg yn byw mewn bwthyn cyfagos wedi iddo ymddeol).   

Un lle arall na ddylech ei golli, os ewch chi i'r cyfeiriad arall at gopa 548tr/167m Mynydd Mawr, sydd â golygfeydd godidog ar draws y Swnt i Ynys Enlli, yw'r Warchodfa Natur Genedlaethol sy'n enwog yn rhyngwladol oherwydd yr adar sydd yno (a'r Awyr Dywyll – dyma Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf Ewrop). Roedd pererinion dewr yn arfer hwylio ar draws y dyfroedd peryglus yma i 'Ynys yr 20,000 o Seintiau'. Heddiw, gallwch eu dilyn (os yw'r tywydd yn caniatáu) ar deithiau cwch o Borth Meudwy ger Aberdaron. 

Yn ôl ar y tir mawr, mae Porthor sydd 2½ milltir/4km i ffwrdd, yn draeth hardd a'i enw Saesneg yw Whistling Sands (mae'n debyg fod y gronynnau o dywod yn gwichian neu chwibanu o dan draed).

Aberdaron

Abersoch

Adeiladwyd y pentref ar fryn o amgylch afon Soch, ac mae wedi datblygu yn gyrchfan a lleoliad pwysig i wyliau glan y môr. Erbyn hyn, mae Abersoch ffasiynol yn aml ar y rhestrau o 'gyrchfannau gorau'r arfordir'.  

Daeth yn lleoliad a ddeisyfir am sawl rheswm.  Mae'r rhai sy'n mwynhau'r môr yn heidio i'r harbwr tlws, sy'n cynnig mynediad hawdd i ddyfroedd lleol golygfaol a Môr Iwerddon.  Mae yn ganolfan hwylio nodedig i ddingis, sy'n cynnal sawl regata yn ystod misoedd yr haf.  

Mae'r rhai sy'n caru pethau coeth bywyd yn cefnogi'r bistros a'r siopau o safon, sy'n rhoi awyrgylch gosmopolitaidd i'r pentref yma oedd unwaith yn bentref pysgota syml. I'r rhai hynny sy'n edrych am bleserau syml y môr a thywod, mae yma ddau draeth tywodlyd ardderchog.  

Mae teithiau cwch o Abersoch yn hwylio o amgylch ynysoedd Tudwal – Ynys Tudwal Fach (i’r dwyrain) ac Ynys Tudwal Fawr (i’r gorllewin) - sydd ddim yn bell o'r lan.  Yr anturiaethwr Bear Grylls yw perchennog yr ynys olaf.  Mae cwrs Clwb Golff 18 twll Abersoch yn gymysgfa o dir parc a thwyni.

Llanbedrog

Ai'r rhain yw cabanau glan môr enwocaf Cymru, os nad Prydain?  Ie, mae'n debyg. Mae cytiau traeth amryliw Llanbedrog yn ddelfrydol i ddefnyddiwr Instagram, cyfle delfrydol am lun. Ond hyd yn oed yn well na hynny, maent ar draeth tywodlyd gyda bryniau glas a choetir yn gefndir iddynt.  

Yng nghanol y coed ceir Oriel Plas Glyn-y-weddw, plasty gothig Fictoraidd, hardd sy'n gartref i un o brif orielau a chanolfan celfyddydau Cymru (mae'r caffi yn arbennig hefyd). Y tu allan, mae 'tiroedd pleser' gwreiddiol Plas Glyn-y-weddw yn parhau i roi mwyniant gwledig i bobl, diolch i'r llwybrau coedwig a'r theatr awyr agored.  

Ewch ymhellach i fyny, at fryncyn caregog Mynydd Tir y Cwmwd, ac yno yn goron mae cerflun clymog o haearn bwrw a adwaenir fel y Dyn Haearn.

Llithfaen

Mae mynyddoedd caregog Yr Eifl, sef nodwedd amlycaf tirlun Llŷn, yn codi i uchder o 1850tr/564m uwchben pentref Llithfaen. Dilynwch y llwybr i Dre'r Ceiri, olion hynod pentref hynafol sy'n rhoi cipolwg byw o'r ffordd roedd llwythau cynhenid yn byw yn ystod goresgyniad y Rhufeiniaid.  

I gael profiad hollol wahanol ewch am yr arfordir ac i bentref Nant Gwrtheyrn. Wedi i'r gymuned chwarelyddol adael, bu'r pentref yn wag am flynyddoedd, ond cafodd ei ail-eni fel Canolfan Iaith a Threftadaeth Genedlaethol Cymru.

Nefyn a Phorthdinllaen

Mae'r ddau le fwy neu lai yn uno gyda'i gilydd, felly byddai'n well sôn amdanynt gyda'i gilydd.  Yn Nefyn ceir Amgueddfa Forwrol Llŷn (a leolir yn Eglwys y Santes Fair) sy'n llawn trysorau a gwrthrychau'r heli - eitemau o longddrylliadau, modelau, angorion, baneri, hen ffotograffau - o dreftadaeth a hanes morwrol cyfoethog yr ardal. Wedyn, galwch heibio Bragdy Cwrw Llŷn i gael taith o amgylch y bragdy a phrofi cwrw crefft lleol wnaed â llaw fesul sypiau bach.  

Mae traeth siâp cilgant Nefyn yn cysylltu gyda stribyn chwarter lleuad arall o dywod gerllaw ym Mhorthdinllaen. Adeiladwyd llongau yn y ddau leoliad yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Os ydych yn ymweld â'r lleoliad yma heddiw gallem faddau i chi am gredu eich bod wedi teithio yn ôl i'r dyddiau a fu.  Mae Porthdinllaen yn bentrefan, a gadwyd mewn cyflwr da gan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o dai hen ffasiwn ger traeth delfrydol. Mae Tafarn Tŷ Coch yn enwog yn rhyngwladol fel un o'r '10 bar traeth gorau yn y byd'.   

Mae golffwyr sy'n mwynhau her (a ddim yn poeni am golli ychydig o beli) yn canmol y cwrs lleol, sydd wedi ei gyffelybu i chwarae ar fwrdd uchaf llong awyrennau.

Porthdinllaen

Pwllheli

Pwllheli yn 'prifddinas answyddogol Llŷn', sy'n llawn atyniadau. Dim ond tafliad carreg o ganol y dref brysur hon yn annisgwyl mae traeth ardderchog a hir, ynghyd â phromenâd llydan.  Mae yna ddigon o le - a thywod - yma i fwynhau glan y môr heb y torfeydd arferol.   

Mae'r môr hefyd yn nodwedd ychwanegol o Bwllheli. Mae hwylio yn bwysig iawn yma, diolch i ddyfroedd deniadol Bae Ceredigion a Môr Iwerddon, gyda marina crand, modern, Hafan Pwllheli â lle i dros 400 o gychod.   

Mae Plas Heli, Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a'r Ganolfan Ddigwyddiadau, wedi ychwanegu at enw da Pwllheli fel canolfan bwysig i chwaraeon dŵr.  Mae mordeithiau ar hyd yr arfordir sy'n ymweld â morloi a nythfeydd adar y môr (yn aml yng nghwmni  dolffiniaid) hefyd yn boblogaidd.   

Mae gan ganolfan hamdden Byw'n Iach Dwyfor yr offer diweddaraf a chyfleusterau ardderchog i nofio, chwaraeon a ffitrwydd. Ar gyfer golffwyr, mae Clwb Golff Pwllheli yn gwrs golff golygfaol godidog 18 twll o dir parc a thwyni. 

Gellir cael ymdeimlad o ran hanesyddol Pwllheli fel tref farchnad ymysg ei strydoedd cul a'r ganolfan siopa. Cynhelir marchnad wythnosol awyr agored y dref ar ddydd Mercher ar y Maes ac mae yn dyddio yn ôl i'r bedwaredd ganrif ar ddeg, pan gafodd Pwllheli Siarter Brenhinol gan Edward, 'y Tywysog Du'.   

Mae'n argoeli y bydd Pwllheli yn brysurach nag erioed yn 2023 gan y cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, prif ŵyl ddiwylliannol Cymru, gerllaw ym Moduan ym mis Awst.