Parc Cenedlaethol Eryri

Nid oes amheuaeth mai Parc Cenedlaethol Eryri yw un o’r parciau mwyaf ym Mhrydain. Mae bendant yr uchaf yng Nghymru a Lloegr, gyda’r Wyddfa yn gawr 3,560 troedfedd o uchder yn ei ganol. Mae’r Parc yn ymestyn dros ardal anferth o 823 milltir sgwâr o’r arfordir yn y gogledd yr holl ffordd i lawr at Aberdyfi ger Machynlleth. Mae hynny gyfystyr â gogledd-orllewin Cymru i gyd bron, ac ardal go helaeth o ganolbarth Cymru hefyd. Ond nid dyna’r cwbl, oherwydd yn ffinio â’r Parc mae gweunydd grug, coedwigoedd a llynnoedd heddychlon Hiraethog.

Ymunwch â’r Clwb 3,000

Mae gennym 14 (neu 15 o bosib – dydi’r cyfrifwyr mynyddoedd yn methu â chytuno) o gopaon sy’n ymestyn dros 3,000tr yn Eryri.  Hwyrach eich bod wedi clywed am rai ohonynt.  Mae triongl Tryfan, tirnod enwog yn Nyffryn Ogwen a rhan o’r Glyderau yn ymestyn o Fynydd Llandegai i Gapel Curig – ac yma ceir rhai o’r golygfeydd a’r mynydda gorau ym Mhrydain. Un nodwedd amlwg yw’r Carneddau, sy’n cynnwys yr ardal fwyaf o ucheldir di-dor dros 2,500tr yng Nghymru a Lloegr.

2,000 a mwy

Rydym wedi rhoi’r gorau i gyfrif y copaon sy’n uwch na 2,000tr.  Mae gormod ohonynt! Mae Cader Idris yn y de, er enghraifft, yn codi fyny o lannau’r Aber Mawddach yn ei holl ogoniant, ac yn ymestyn i 2,927tr.  Mae cadwyn y Moelwynion (2,527tr) o boptu Dyffryn Ffestiniog a mynyddoedd yr Aran (2,970tr) uwchben Llyn Tegid yn fawr ac yn braff hefyd.  Ond, os ydych chi eisiau crwydro’r ardal ‘wyllt’ olaf yn ne Prydain, ewch draw tua’r gorllewin at lwyfandir anghysbell, diarffordd y Rhinogydd, gyda’i gopa 2,475tr ar goll yng nghanol y creigiau a’r grug.

Chwech o’r goreuon

Mae teithiau cerdded gwych i’w cael ar y chwe llwybr swyddogol sy’n arwain i gopa’r Wyddfa.  Maent i gyd o gwmpas yr un hyd (oddeutu wyth milltir yno ac yn ôl), felly dewiswch o blith Llwybr Llanberis, Llwybr y Mwynwyr, Trac PyG, Llwybr Watkin, Llwybr Rhyd Ddu a Llwybr Cwellyn.  Llwybr Llanberis yw’r un mwyaf graddol, sy’n cymryd chwe awr yno ac yn ôl. Nid yw’n hawdd cofiwch – byddwch yn dringo 3,200tr. Gweler ein gwefan am fanylion llawn.

Cyrraedd y copa

Hafod Eryri yw’r ganolfan ymwelwyr anhygoel ar gopa’r Wyddfa, ac fe’i hadeiladwyd o goed derw lleol a gwenithfaen, gyda ffenest wydr ‘yn edrych ar y byd’. Mae’r golygfeydd a geir oddi yma ar ddiwrnod clir yn wirioneddol ysblennydd.  Pan mae’n niwlog, codwch eich calon gyda phaned o de a theisen gri.

Beth sydd yn y Twll Du?

Ewch i weld drwy gerdded i fyny i dirweddau tywyll, rhewlifol Cwm Idwal. Mae llwybr tair milltir (yna ac yn ôl) yn mynd â chi o lannau Llyn Ogwen at Lyn Idwal, llyn yn y mynyddoedd dan gysgod creigiau’r Twll Du (Devil’s Kitchen yn Saesneg). Beth am geisio chwilio am lili’r Wyddfa, planhigyn arctig-alpaidd cywrain ac anghyffredin.

Gwasanaeth bws Sherpa yr Wyddfa

Beth am fod yn wyrdd ac anghofio’r car am unwaith? Mae gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn mynd i bob twll a chornel a gallwch gamu arno ac oddi arno fel y mynnwch. Mae’r gwasanaeth yn rhedeg ar hyd rhwydwaith gysylltiol sydd wedi’i deilwra’n arbennig i gerddwyr a phobl sydd yma i weld y golygfeydd.  

Y mwyaf, yn naturiol

Llyn Tegid, Y Bala, sy’n 4½ milltir o hyd, yw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Beth yw’r ffordd orau i’w weld? Y trip ar hyd y lan ddeheuol ar drên stêm lein gul Rheilffordd Llyn Tegid. Mae gennym nifer o lynnoedd eraill, rhai naturiol a rhai gwneud – dyfroedd cyfrinachol Llyn Geirionydd a Llyn Crafnant er enghraifft, sy’n cuddio o’r golwg yng nghoedwig Gwydir uwchlaw Llanrwst.