Oriel Plas Glyn-y-Weddw
Mae'r ganolfan gelf unigryw yma wedi ei lleoli mewn plasty Gothig rhestredig ger traeth Llanbedrog ac ar lwybr arfordir deheuol Pen Llŷn. Yn ogystal a chynnig y cyfle i fwynhau arddangosfeydd celf, cewch gyfle i grwydro llwybrau cerdded yng nghoedwig y Winllan ac edmygu’r golygfeydd syfrdanol o Fae Ceredigion a mynyddoedd Meirionydd ac Eryri. Yn ddiweddar datblygwyd caffi newydd unigryw wedi ei ysbrydoli gan yr amgylchedd forol i wasanaethu'r oriel. Mae'r caffi yn enwog am gacennau a phrydau ysgafn bendigedig, y cwbl wedi ei goginio yn ffres gan ddefnyddio cynhyrch lleol o’r safon uchaf.
(Ar gau yn achlysurol oherwydd priodasau/cyngherddau. Rhowch alwad cyn teithio'n bell)
Gwobrau
Mwynderau
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Parcio
- Siop
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw