Mae’n Adeg Gymunedol

Mae gan Eryri lond gwlad o dafarndai difyr. Yn eu plith nhw, mae tafarndai’r cwmnïau cadwyn arferol a’r holl dafarndai sydd yng ngofal y bragdai mawr.

Ond wyddoch chi be’? Eryri hefyd ydy cadarnle diwylliant y ‘dafarn gymunedol’. Llefydd ydy’r rhain y mae’r gymuned ei hun yn berchen arnyn nhw. Yn amlach na heb, y bobl leol fydd wedi camu i’r adwy i achub yr adeiladau hyn rhag difancoll. Ac oherwydd hynny, maen nhw’n cynnig llawer mwy na dim ond bar rhwng pedair wal. Maen nhw’n ganolfannau sy’n rhoi curiad calon i’w cymdeithas, a drych i ddiwylliant unigryw eu bro.

Y tro nesaf y byddwch chi’n crwydro Eryri, cofiwch alw i mewn i un o’r llefydd rhagorol am hyn am gwrw, am gynhaliaeth, ac am groeso gwresog heb ei ail.

Y Plu, Llanystumdwy

Mae pentref Llanystumdwy yn enwog am sawl peth. Yma y mae bedd David Lloyd George, yr unig Gymro i fod yn Brif Weinidog Prydain. Yma y treuliodd Jan Morris, yr awdur byd-enwog, ran helaeth o’i hoes. Ac yma y mae Tŷ Newydd, y plasty trawiadol sy’n gartref i Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru.

Ond yn fwy na dim, yma hefyd y mae tafarn eiconig Y Plu.

A honno wedi torri syched ei chwsmeriaid am ddau gan mlynedd, roedd pethau’n edrych yn go ddu arni yn ôl yn 2018. Roedd y drysau ar glo, a’r gymuned yn wynebu tipyn o gnoc i’w diwylliant. Ond drwy fentergarwch criw bach lleol, llwyddwyd i gasglu digon o arian i brynu goriadau’r hen ‘Feathers Inn’ gynt. 

Mae hynny’n golygu bod yma heddiw ganolfan sydd ar agor i’r gymuned yng ngwir ystyr y gair. Nid cwrw a chwmni da yn unig a gewch chi, ond cwis misol, sesiwn sgwrsio i ddysgwyr, te p’nawn wythnosol, a sesiynau cymorth digidol, ymhlith sawl digwyddiad arall. Ceisiwch alw draw ar nos Iau olaf y mis i fwynhau un o’r sesiynau jamio. Ac mae hynny heb anghofio’r gigs cyson yn yr ardd. 

Gerllaw, mae’r fenter wedi creu llety yn yr hen Gapel Bach i’r rheini sydd am aros y nos. Mae siop fach gymunedol ar y tir. A chofiwch bicio heibio i Amgueddfa Lloyd George ar y stryd fawr neu fynd am dro ar hyd glannau hyfryd afon Dwyfor, sy’n llifo drwy’r pentref. Mae’r Amgueddfa wedi cau dros dro ond bydd yn ail-agor yn ystod Pasg 2025. 

Yr Heliwr, Nefyn

Pentref prysur fuodd Nefyn erioed. O drigolion bryngaer Garn Boduan yn Oes yr Haearn, i bysgotwyr penwaig y bedwaredd ganrif ar bymtheg, i ymwelwyr y Clwb Golff yn yr oes hon – mae’r lle wastad wedi denu pobl. Ond tipyn tlotach fyddai’r stryd fawr heb waliau gwyngalch Yr Heliwr i’ch croesawu drwy’r drws.

Yn 2021, agorodd yr hen ‘Sportsman Arms’ ar ei newydd wedd, a hynny o dan ofal y gymuned. Roedd y lle wedi bod ar gau am dros ddegawd. Mae yma bellach westy yn ogystal â thafarn, wrth i’r fenter roi pwys ar greu gwerth cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd i’r fro. Mae hybu’r Gymraeg hefyd yn nod amlwg.

Mae yma fwyd cartref o safon, a phoblogaidd hefyd ydy’r arlwy o bympiau Cwrw Llŷn. Dydy hwnnw ddim wedi gorfod teithio’n bell, gan ei fod o’n cael ei fragu i lawr y lôn (mwy isod)! Ond ochr yn ochr â’r cwrw – a’r sesiynau peint a sgwrs – mae yma hefyd b’nawniau paned a chacen rheolaidd, sesiynau celf i blant, caffi digidol wythnosol, sesiynau crefftau, clwb hel atgofion a chlwb dartiau. A hynny heb sôn am y llu o ddigwyddiadau diwylliannol a cherddorol sy’n cael eu cynnal gydol y flwyddyn. 
Cofiwch fod Nefyn yn rhan o ardal bws fflecsi Pen Llŷn, felly mae’n hawdd cyrraedd yma yn ystod y dydd!

Tafarn y Fic, Llithfaen

Trowch am y dwyrain o Nefyn. Ddeng milltir i lawr y lôn, fy gyrhaeddwch chi bentref Llithfaen. Mae copaon yr Eifl (gan gynnwys bryngaer enwog Tre’r Ceiri) ynghyd â chanolfan dreftadaeth syfrdanol Nant Gwrtheyrn ymhlith yr atyniadau cyfagos.

Ond yn ogystal â’r rhyfeddodau hyn, mae gan Lithfaen reswm arall dros frolio. Yma y mae cartref Tafarn y Fic – y fenter gydweithredol hynaf yn Ewrop gyfan sy’n rhedeg tafarn. Mae honno yng ngofal y gymuned ers diwedd yr wythdegau. Fyth ers hynny, mae hi wedi rhoi patrwm i gymunedau eraill ei efelychu ar hyd ac ar led y wlad. Go brin y byddai sîn y ‘dafarn gymunedol’ yng Nghymru yr un fath heb weledigaeth wreiddiol pobl Llithfaen dros bymtheg mlynedd ar hugain yn ôl.

Yn ogystal â’r bar ffrynt, lle bydd gigs a chwisus cyson, mae ystafell gymunedol hefyd yn rhan o ddyluniad y lle. Ceisiwch alw ddiwedd haf os gallwch chi, i fwynhau’r ŵyl flynyddol, neu ar Sul gŵyl banc, pan fydd cerddorion lond y lle. A dewch â’r teulu i gyd, gan fod parc chwarae cyhoeddus gwerth chweil yn y cefn. Gadewch i’r plant gael sbri wrth i chithau fwynhau’r golygfeydd godidog dros ehangder gwlad Llŷn. 

Y Pengwern, Llan Ffestiniog

Mae hi bron yn bymtheng mlynedd ers i drigolion Llan Ffestiniog ddod ynghyd i brynu’r dafarn hynafol hon. Y gred ydy bod rhannau o’r adeilad yn dyddio o’r bymthegfed ganrif. Ar un adeg, y porthmyn fyddai’n galw yma, a byddai gof wrth law i bedoli’r gwartheg cyn y siwrnai hir a garw dros fynydd y Migneint. Yn fwy diweddar, byddai’r dafarn wedi disychedu chwarelwyr rif y gwlith.

Heddiw, mae’r fenter gymunedol sy’n gofalu am y lle wedi ymlafnio i greu adnodd economaidd, cymdeithasol, addysgol a diwylliannol i’r pentref. Mae’n cynnig bwyd; mae yno lofftydd i aros; ac mae’n denu pobl o bob cwr – yn union fel y gwnâi hi ganrifoedd yn ôl.

Nosweithiau bwydydd tramor; cwisus; partïon coctel; oriau hapus; diwrnodau garddio – dyna ychydig yn unig o arlwy’r tŷ potes hwn sy’n un gonglfeini’r fro. Ar ôl mwynhau croeso’r Pengwern, ewch am dro i weld rhyfeddod Rhaeadr Cynfal, neu nepell o Lyn Trawsfynydd, hen gaer Rufeinig Tomen y Mur.

Yr Eagles, Llanuwchllyn

Yn ôl gwefan Yr Eagles, mae’r dafarn hon yn ‘eicon cenedlaethol’ ac yn un o ‘dafarndai mwyaf adnabyddus Cymru’. Ond roedd y statws hwnnw dan fygythiad tan yn ddiweddar iawn. Roedd y dafarn ar werth, a neb yn siŵr iawn beth fyddai’i thynged.

Diolch i’r drefn, fe welodd y gymuned ei chyfle, gan lwyddo i godi £450,000 i brynu’r adeilad. Fe ddaeth y cyfraniadau o bob cwr o’r wlad a’r tu hwnt. Hyd yn oed ym myd tafarndai cymunedol Cymru, dyna ffigwr i ryfeddu ato. Ers mis Rhagfyr 2023, mae’r dafarn wedi bod ar agor drachefn, a hynny yn nwylo’r trigolion lleol. 

Mae hynny wedi llwyddo i ddiogelu’r bar, y bwyty a’r siop, sy’n gwasanaethu pawb yn y gymdogaeth, o’r cylch meithrin i’r henoed. Mae’r oriau agor yn hir, a thrwy gydol yr adeg, mae yma bwyslais amlwg ar greu awyrgylch Gymreig sy’n rhoi lle canolog i’r iaith a’i diwylliant. 

Ar ôl mwynhau’r arlwy cartrefol, ewch am dro i Lyn Tegid gerllaw, neu gamu ar y trên bach i’r Bala, sy’n gadael o ganol y pentref. Mae canolfan gweithgareddau awyr agored yr Urdd yng Nglanllyn hefyd ar garreg y drws.

Ty'n Llan, Llandwrog

Mae sôn bod tafarn wedi sefyll ar leoliad Ty’n Llan, ym mhentref hardd Llandwrog, mor bell yn ôl a 1652. Heddiw, dyma un o dafarndai cymunedol diweddaraf Cymru, nepell o lan môr enwog Dinas Dinlle, lle mae chwedlau’r Mabinogi yn frith. 

Fe ddaeth y gymuned ynghyd i brynu’r adeilad yn 2021, ar ôl i hwnnw fod ar gau am gyfnod go lew. Mewn dim o dro, roedd golau yn ôl yn yr ystafelloedd, y cwrw’n llifo, a’r bwyd yn dod yn boeth o’r gegin. Ac yn bwysicach na dim, roedd gan Landwrog ofod cymdeithasu drachefn ar gyfer y clwb ymarfer corff, y clwb cinio i’r henoed, y clwb cerdded, y clwb Ffrangeg, y clwb ieuenctid, y boreau coffi, y clwb dysgwyr, a mwy...

Ar hyn o bryd, mae Ty’n Llan ar gau eto – ond am reswm mwy cadarnhaol o lawer y tro hwn. Mae gwaith adnewyddu helaeth yn mynd rhagddo yno. Bydd y dafarn yn ailagor ymhen ychydig fisoedd i gynnig llawer mwy i’r gymuned, i ymwelwyr, ac i chi! Yn y cyfamser, ewch am dro i barc gwledig Glynllifon, lle mae troeon cerdded heb eu hail drwy’r coed. A chofiwch fod bysus cyhoeddus rheolaidd yn teithio drwy Landwrog hefyd.    

Cwrw Llŷn, Nefyn a Miws Piws, Porthmadog 

Yn ôl i Nefyn â ni, i ymweld â menter ychydig yn wahanol y tro hwn. Bragdy sydd ar safle Cwrw Llŷn ar yr olwg gyntaf. Ond dewch i mewn drwy’r drws, ac fe welwch fod yma far helaeth i flasu’r cynnyrch a chyfle i fynd ar daith i weld sut mae’r cwrw’n cael ei greu. Y tu allan, mae lle i ymlacio sy’n aml yn cynnig adloniant byw.

Mae ansawdd y cwrw’i hun yn bwysig: bragu â llaw, ychydig ar y tro, ydy’r dull yn Cwrw Llŷn. Dyna, yn ôl y perchnogion, sut mae sicrhau rheolaeth dros ansawdd a chysondeb. Wrth fwynhau llymaid, fe allwch chi weld yr union broses hon ar waith, gan fod ffenest fawr rhwng y bar a’r bragdy.

Yn bwysicach na dim, mae’r fenter hon wedi’i seilio’n llwyr ar dreftadaeth Llŷn a’r fro. Mae straeon yr ardal, ei chwedloniaeth a’i diwylliant, yn drwm o’ch amgylch yma. Edrychwch ar enwau’r cwrw: Brenin Enlli, Seithenyn, Cochyn, Y Brawd Houdini, Glyndwr, Porth Neigwl, Largo. Enwau ydy’r rhain sydd i gyd wedi deillio o dir a daear Llŷn ei hun. 

Mae’r bragdy’n sefyll ar hen lwybr y pererinion i Ynys Enlli. I gael straeon yr enwau’n llawn, bydd yn rhaid i chithau fynd ar bererindod i adeilad Cwrw Llŷn. Mae bws fflecsi Pen Llŷn ar gael i wneud y daith honno’n haws! 

Neu os ydych chi yng nghyffiniau Porthmadog, rhowch eich pig i mewn i Fragdy lleol Mŵs Piws. Wedi ei fragy â dŵr Eryri, mae cwrw Mŵs Piws wedi ennill gwobrau lu gan gynnwys y Wobr Aur yng nghystadleuaeth Cwrw Gorau Prydain CAMRA. 

Wedi dechrau bragu ychydig adref nôl ym 1995, mae cwmni Lawrence Washington bellach yn berchen bragdy sy’n cynhyrchu dros 57,000 o beintiau yr wythnos, ac yn rhedeg dwy dafarn boblogaidd ym Mhorthmadog hefyd, sef The Australian a The Station Inn. Fel mae’r enw yn esbonio, ar yr orsaf drên ym Mhorthmadog mae The Station Inn, felly beth am deithio yma ar y trên cyn galw mewn i drio’r diod arobryn? Neu crwydrwch i mewn i’r dref i ymweld â’r bragdy neu dafarn The Australian, ble mae dewis da o fwyd cartref hefyd. 

Ambell berl arall

Yn ogystal â’r tafarndai cymunedol, cofiwch am y llu o dafarndai eraill sydd gan Eryri i’w cynnig, a’r rheini’n aml mewn lleoliadau ysblennydd. Yn eu plith nhw mae’r Tŷ Coch a’i safle godidog ar lan y môr ym Mhorthdinllaen; gwesty Pen-y-Gwryd yn nyffryn Nant Gwynant (bydd copa’r Wyddfa yn yr entrychion uwch eich pen); a gwesty’r Grapes, sy’n nythu’n braf o dan lethrau coediog Maentwrog. Dyma lefydd perffaith i fynd ar ddiwedd tro, am ginio Sul, neu i swatio o flaen tanllwyth o dân yn yr hydref, tra bod y ci yn cadw’ch traed yn gynnes o dan y bwrdd.

Tŷ Coch Inn © Hawlfraint y Goron © Crown copyright (2024) Cymru Wales

 

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU 200