Lôn Las Ogwen

cycling

Dyffryn yr Afon Cegin yw un o fannau tawelaf yr ardal, lle’n aml nid oes ond sŵn yr afon. Gwelir y rhan hon o’r llwybr sy’n rhedeg drwy’r dyffryn cysgodol rhwng Porth Penrhyn a phentref Glasinfryn yn Lôn Bach. Adeiladwyd Lôn Bach yn yr 1980au ar gyn reilffordd gul Stad y penrhyn, a sefydlwyd i gludo llechi o chwarel Bethesda i’w hallforio o Borth Penrhyn. Erbyn heddiw, mae Lôn Bach yn rhan o Lôn Las Ogwen, sy’n ymlusgo’n ddiog ar ei thaith dros y bont odidog ger Glasinfryn i Dregarth, a heibio Chwarel Penrhyn i Nant Ffrancon. 

Pellter: 17.7 km / 11milltir
Amcan amser: 3 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer OL17 Snowdon & Conwy Valley
Parcio: Ffordd y Traeth, Bangor