Lôn Eifion

cycling

Bydd rhai yn dweud mai Lôn Eifion yw’r daith fwyaf adnabyddus ar y rhwydwaith. Yn sicr, mae’n ddigon hawdd gweld pam fod y llwybr yn boblogaidd, gyda’i lecynnau tawel cysgodol, a’i olygfeydd godidog. Pam na ewch i weld y panorama o’ch cwmpas o Ben Llŷn, Bae Caernarfon, Ynys Môn ac Eryri? 
Dilynwch Lôn Eifion trwy goridorau gwyrdd o goed a phlanhigion cynhenid sydd yn ymwestyn thwng tref brysur Caernarfon a phentref gwledig Bryncir i’r de.

Pellter: 20.0 km / 12.5 milltir
Amcan amser: 3.5 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer OL17 Snowdon & Conwy Valley
Parcio: Maes parcio Castell Caernarfon