Llwybr Mawddach Llyn Penmaen

cycling

Yn ymlusgo’n ddiog ar hyd cyn reilffordd ger aber y Fawddach, mae Llwybr Mawddach. Sy’n berchen i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac a reolir ganddo, yn rhedeg o Abermaw i Ddolgellau. Mae gan y llwybr wyneb o lwch cywasgedig, gyda’r rhan o Lynpenmaen i Ddolgellay wedi’i addasu’n arbennig ar gyfer pobol anabl. Wrth gerdded neu feicio ar hyd y llwybr, cewch olygfeydd gwych o’r ardal, yn ogystal â’r aber a phont fawreddog Abermaw. Mae yma hefyd amrywiaeth cyfoethog o gynefinoedd gwlyptir a choetir, er enghraifft Coedydd Abergwynant,sy’n gyfochrog â’r llwybr ac yn berchen i’r Awdurdod.

Pellter: 15.0 km / 9 milltir
Amcan amser: 2.5 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Landranger 124
Parcio: Taicynhaeaf