Llwybr chwedlonol Dinas Emrys

walking

Tro braf heibio rhaeadrau a thrwy goedwig dderw i gyrraedd y copa ble ceir golygfeydd gwych. Ar y copa fe welwch olion tŵr sgwâr a rhagfuriau amddiffynnol a oedd yn eiddo i hen dywysogion Gwynedd gynt.

Pellter: 3.5 km / 2.2 milltir
Amcan amser: 1.5 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Landranger OL17 
Parcio: Maes parcio Craflwyn