Llanberis
Ble i ddechrau? Mae Llanberis yn llawn gyda digon o atyniadau i gadw ymwelwyr yn brysur am wythnosau. Yn gyntaf, mae'n rhaid sôn am leoliad gwych y dref ar lan llyn ac wrth droed yr Wyddfa. Pan fyddwch chi wedi blino cerdded ar lan y dŵr – ‘does dim peryg o hynny ychwaith - ewch am daith ar ddwy reilffordd - Rheilffordd Llyn Llanberis a Rheilffordd yr Wyddfa. Mae’r ail un yn dringo bron at stepen drws Canolfan Ymwelwyr syfrdanol Hafod Eryri ar gopa’r Wyddfa.
Mae yna ddigon i’w weld a digon i’w wneud ym Mharc Gwledig Padarn ar fin y llyn. Mae’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn dwyn atgofion o dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Eryri tra bo Castell Dolbadarn yn mynd â chi’n ôl filoedd o flynyddoedd i oes tywysogion Cymru. Os nad yw hynny’n ddigon i chi, mae yma hefyd siopau crefft a chwaraeon dŵr, er bod y rhan fwyaf o’r bobl awyr agored yn dod yma i gerdded. Yn ogystal â llwybrau’r mynydd, dilynwch Lwybrau Treftadaeth hunan dywys yn Llanberis sy’n mynd â chi i lefydd difyr o amgylch y pentref.
Os yn chwilio am lety a pethau i'w wneud o gwmpas Llanberis yna cliciwch y linciau isod.
Llety: Rhestr I Map
Atyniadau/Gweithgareddau: Rhestr I Map
Llefydd i fwyta: Rhestr I Map
Siopau: Rhestr I Map