Gweithgareddau Gwerth Chweil
Ewch allan i grwydro ar hyd Ffordd yr Arfordir. Mae cyfoeth o bethau i chi eu gwneud yn y dŵr, ar y dŵr a ger y dŵr. Yn amlwg, ni allwn restru popeth yma, ond dyma flas o'r gweithgareddau dyfrol y gallwch eu gwneud yma.
Gwylio adar ar Ynys Ramsey a Grassholm
Ewch ar gwch o Dŷ Ddewi i weld y bywyd gwyllt sy'n ffynnu yn y gwarchodfeydd natur godidog sydd ar yr ynysoedd hyn. Cadwch lygad ar yr awyr i weld rhywogaethau megis y frân goesgoch, y gwylog, y fulfran wen, palod Manaw a'r palod (ac efallai y cewch chi gipolwg ar forloi llwyd sy'n magu ar draethau Ramsey yn ystod misoedd y gaeaf).
Arfodira yn y Blue Lagoon, Abereiddi
Ewch ar antur ar ein harfordir wrth i chi ddringo dros glogfeini a chlogwyni creigiog cyn mynd amdani a llamu i mewn i'r dyfroedd islaw. Byddwch mewn dwylo diogel gydag arweinyddion proffesiynol fydd yn eich cynorthwyo i wneud eich ffordd drwy’r hen chwarel lechi hon sydd bellach yn faes chwarae antur dyfrol.
Cerdded ar hyd yr arfordir o Aberaeron i Gei Newydd
Allwch chi fyth ymweld â'n glannau heb gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, ein llwybr byd-enwog sy'n ymestyn am 870 o filltiroedd. Mae'r rhan fechan hon ohono sy'n ymestyn am 6½ milltir yn ystumio rhwng dwy dref harbwr brydferth, drwy gymoedd coediog ac ar hyd pen clogwyni, gyda golygfeydd ysblennydd o Fae Ceredigion.
Chwaraeon dŵr i bawb yng Nghei Newydd
Mae Canolfan Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion yn cynnig gweithgareddau lu - popeth o hwylio i hwylfyrddio i badlfyrddio a chychod pŵer. Ond nid oes angen i chi fod yn hen law arni. Mae'r sesiynau blasu sydd ar gael yn ddelfrydol os ydych chi'n newydd i'r math yma o beth.
Teithio ar y trên i Gwm Rheidol i gerdded o amgylch y rhaeadrau
Ewch am dro gyda rheilffordd gul Rheilffordd Cwm Rheidol. Gan gychwyn yn Aberystwyth, bydd y rheilffordd stêm hanesyddol hon yn dringo drwy 12 milltir o gaeau gwyrddion a choedwigoedd ar ei siwrne i Bontarfynach, lle byddwch yn canfod byd coll o raeadrau gwyllt sy'n llechu mewn ceunant serth, dramatig.
Golff yn Aberdyfi
Rydym yn adnabyddus yn y byd golff am ein cyrsiau lincs arfordirol ardderchog. Y cwrs yn Aberdyfi yw un o'r goreuon. Gyda chopaon Parc Cenedlaethol Eryri ar un ochr a thwyni tywod ar y llall, mae'r cwrs gwyllt hwn yn cyfuno ysblander naturiol â golff sy'n ddigon i herio'r goreuon.
Hedfan barcud yn y Bermo
Traeth mawr, gwyntog y Bermo yw'r lle delfrydol i hedfan barcud. Os hoffech chi fymryn o gwmni, ymunwch â channoedd o hedfanwyr eraill yn yr Ŵyl Barcud flynyddol sy'n cael ei chynnal yn yr haf, a phryd hynny bydd yr awyr yn frith o farcudiaid lliwgar o bob siâp a maint.
Socian yn Adventure Parc Snowdonia
Dewch i reidio'r tonnau yn ein lagŵn syrffio mewndirol chwyldroadol yn Nyffryn Conwy - lle delfrydol am antur ddyfrol, waeth beth fo'r tywydd. Rydych yn siŵr o gael tonnau perffaith boed law neu hindda.