Gradient Adventure
Llenwch eich diwrnod ag adrenalin. Nofiwch, llithrwch, abseiliwch neu gwibiwch ar y weiren wib hyd yn oed i lawr rhai o hafnau a cheunentydd trawiadol Eryri. Yn syml, dyna yw hafnwibio; antur go iawn. Os yw hynny’n swnio’n ormod i chi, yna mae sgrialu ceunentydd yn ddewis perffaith. Llawn cymaint o hwyl i’r rhai llai mentrus. Mae Gradient Adventure yn arbenigo mewn cynnig cyfleoedd cyffrous i hafnwibio a sgrialu ceunentydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae Gradient Adventure, sy’n eiddo Glyn Calland, ac yn cael ei redeg ganddo hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o anturiaethau awyr agored cyffrous eraill, fel aforgampau, dringo, mynydda, cerdded mynyddoedd, ceufadu a chanŵio. Mae Glyn yn Hyfforddwr Mynydda, Hyfforddwr Canŵio ac athro cymwysedig. Mae wedi byw a gweithio yn Eryri am 20 mlynedd.
Mwynderau
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw