Glan-Y-Morfa

  • 1 Star Rating Star icon rating the accommodation 1 Stars
  • 2 Star Rating Star icon rating the accommodation 2 Stars
  • 3 Star Rating Star icon rating the accommodation 3 Stars
  • 4 Star Rating Star icon rating the accommodation 4 Stars

Cwrt, Pennal, Gwynedd, SY20 9LD

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 0208 853 3591 Retail Mobile Number Mobile Number icon for Snowdonia retail page 07719 814376

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page glanymorfa@gmail.com

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page https://www.glanymorfa.co.uk/

Ffermdy 300 mlwydd oed wedi'i adnewyddu'n wych, yn edrych dros aber Afon Dyfi a chefn gwlad syfrdanol Cymru. Gyda Phrosiect Gweilch Dyfi ychydig dros yr afon, ynghyd â Gwarchodfa Natur RSBP Ynys Hir, mae gan y tŷ atyniad arbennig i bawb sy'n hoff o adar. Barcutiaid, Creyr Glas ac os ydych chi'n ffodus, gall Gwalch y Môr achlysurol gael ei weld yn aml yn hedfan dros yr ardd. Darperir popeth o dywelion, ffrwythau, perlysiau a sbeisys a pasta, i fasged o logiau i'ch helpu i fwynhau'ch arhosiad yma. Mae gan y tŷ lawer o swyn o hen bethau teuluol, celf a ffotograffau lleol, i ddodrefn sydd wedi'u hadnewyddu yn unol â chalon ac enaid y tŷ. Mae gan yr ardd Chiminea llosgi pren ar gyfer y nosweithiau oerach yn gwylio'r haul yn mynd i lawr a barbeciw mawr ar gyfer nosweithiau haf. Cyrhaeddwch Glan-y-Morfa i lawr trac fferm a gynhelir yn dda, felly rydych chi'n sicr "oddi ar y llwybr cuddiedig", ond dim ond 10 munud o gerdded ar draws caeau a Choedwig Talgarth yw Clwb Gwlad Plas Talgarth, sydd â bar gwych ( Y Garth) a bwyty. Dim ond 15 munud mewn car ydi hi i o'r tŷ i gyrraedd traethau godidog a'r cuddfannau ar yr Aber a phentref glan môr Aberdyfi hyfryd. Mae Machynlleth yn 15 munud i'r cyfeiriad arall, yn llawn siopau hen drufareddau, yn ogystal â Marchnad wythnosol gwych sy'n gwerthu bwyd ffres lleol a chrefftau. Mae nifer o deithiau cerdded a llwybrau beicio i fyny yn y mynyddoedd gydaa Mynydd Cadair Idris enwog am y mwyaf anturus. Er bod nifer o deithiau cerdded ar gyfer pob lefel o amgylch yr ardal. Mae digon o fapiau a llyfrau yn y ffermdy i chi gynllunio eich diwrnod.
Mae'r perchnogion, sy'n berchnogion cŵn eu hunain, yn croesawu cŵn (mae hyd yn oed bowlenni sbâr ar eu cyfer), ond cofiwch fod y tŷ wedi'i amgylchynu gan dir fferm ac mae'r ardd wedi'i ffensio. Serch hynny, mae angen cadw pob ci dan reolaeth bob amser. Mae gan y tŷ 2 ystafell wely ddwbl fawr, 1 ystafell wely deulawr ac 1 ystafell wely gyda gwelyau bync maint llawn. Gellir gosod cot teithio yn ôl cais. Mae toiled a chawod yn yr ystafell ymolchi i fyny'r grisiau. Mae gan yr ail ystafell ymolchi i lawr y grisiau bath, cawod a thoiled. Mae'r gegin deulu fawr gyda bwrdd lle gall 8 eistedd, ac mae yna ystafell fwyta ar wahân sydd hefyd yn eistedd 8 o bobl. Mae ystafell eistedd gyfforddus â 2 soffa a llosgydd log agored Jotel. Mae yna deledu, darseinyddion 'bluetooth', ffilmiau, ynghyd â nifer o lyfrau a mapiau am yr ardal. Yng nghefn y tŷ mae ystafell aml-bwrpas / gemau gyda pheiriant golchi a sychwr, a rac sychu ar gyfer dillad gwlyb a rac esgidiau mwdlyd. Gellir hefyd storio beiciau yn ddiogel yma, gan fod rhai llwybrau mynydd gwych i fyny yn y mynyddoedd. Os ydych chi eisiau aros i mewn mae pêl-droed bwrdd a bwrdd dartiau "Diogel", ynghyd â nifer o gemau awyr agored: badminton, boules, a quoits. Mae cadair uchel a sgrîn dân. Mae gan y tŷ lawer o amrywiaeth o gemau bwrdd teulu a chardiau. Ni chaniateir ysmygu yn y tŷ.

Mwynderau

  • Peiriant golchi ar y safle
  • Croesewir teuluoedd
  • Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
  • Cadair uchel ar gael
  • Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
  • Dillad gwely ar gael
  • Gardd
  • Dim Ysmygu
  • Te/Coffi
  • Cot ar gael
  • Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
  • WiFi ar gael
  • Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
  • Parcio
  • Cawod
  • WiFi am ddim
  • Beicio mynydd gerllaw
  • Llwybr beicio gerllaw
  • Llwybr cerdded gerllaw

Gwobrau