Glampio Llechwedd

Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3NB

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01766 610 006

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page stay@plasweunydd.co.uk

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page https://plasweunydd.co.uk/llechwedd

Retail Book Direct Icon for Snowdonia retail page Llogi yn Uniongyrchol

Mae Glampio Llechwedd wedi'i leoli mewn lleoliad trawiadol ac unigryw, sy'n nythu ymhlith tirwedd llechi garw a enwebwyd gan UNESCO ac sy'n cynnig golygfeydd anhygoel wedi'u cymysgu â threftadaeth diwydiannol. Mae'r chwech o bebyll saffari yn gwbl en-suite ac yn cysgu pedwar neu bump o bobl - perffaith ar gyfer teuluoedd neu grwpiau bach o ffrindiau. Gan gyfuno moethusrwydd ag antur, daw bob pabell gyda'r holl lieiniau a dillad gwely, barbeciw preifat, a’r offer yw ddefnyddio, Wi-Fi a hyd yn oed popdy microdon a oergell gyda rhewgell bach (dim ond angen dod â'r bwyd). Mae’r pebyll unigryw ychydig funudau o waith cerdded i lawr allt o Galon Antur Eryri – sef Llechwedd. Yma, fe welwch ddigon o weithgareddau i lenwi penwythnos heb hyd yn oed gorfod gadael y safle 2,000 erw - o deithiau tryciau milwrol oddi ar y ffordd, i deithiau anhygoel tanddaearol, i wifren zip a mwy i bwmpio’r adrenalin, yn cynnwys Zip World Titan, Caverns a Bounce Below. Mae ‘na hyd yn oed ganolfan beicio lawr mynydd, o'r radd flaenaf, ar garreg eich drws!

Mwynderau

  • En-Suite
  • Croesewir teuluoedd
  • Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
  • Cadair uchel ar gael
  • Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw
  • Dillad gwely ar gael
  • Dim Ysmygu
  • Te/Coffi
  • Siaradir Cymraeg
  • Cot ar gael
  • Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
  • WiFi ar gael
  • Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
  • Caffi/Bwyty ar y safle
  • Derbynnir cardiau credyd
  • Parcio
  • Cyfleusterau cynhadledd ar gael
  • Cawod
  • WiFi am ddim
  • Beicio mynydd gerllaw
  • Llwybr cerdded gerllaw
  • Archebu ar-lein ar gael

Gwobrau

  • Thumbnail