Ffordd yr Arfordir: Cam wrth Gam

Gan redeg ar hyd Bae Ceredigion gyfan, o Aberdaron yn y gogledd i Dŷ Ddewi yn y de, mae Ffordd yr Arfordir yn un o dri llwybr teithio cenedlaethol Ffordd Cymru sy'n ymestyn am 180 milltir/290km.  Yn hytrach na chyfres gadarn o gyfarwyddiadau, mae pob 'Ffordd' yn llwybr hyblyg gyda digon o gyfleoedd i grwydro oddi ar y prif lwybr, gan ddilyn llwybrau a gwyriadau fel y gallwch greu eich siwrne bersonol eich hun.  

Yn y rhaglen hon, sy'n ymestyn dros bedwar diwrnod, cewch flas ar rai o'r myrdd o deithiau cerdded rhagorol sy'n rhan o Ffordd yr Arfordir. Ni fydd digon o amser i chi gwblhau pob un ohonynt, felly dewiswch y rhai sy'n apelio i chi. Mae llwybrau hir a byr ar hyd yr arfordir a thrwy gefn gwlad, felly rydych yn siŵr o ddod o hyd i un sydd at eich dant.

Diwrnod 1

Cychwynnwch ar eich antur gerdded yn Llanbedrog ar arfordir deheuol Llŷn, lle mae cylchdaith 2.3 milltir / 3.6km yn mynd â chi trwy goetiroedd cysgodol a thros rostir agored, gyda golygfeydd eang i bob cyfeiriad.  Ewch yn eich blaen wedyn i dref harbwr fyrlymus Porthmadog, i fynd ar gylchdaith 6.3 milltir / 10km trwy bentrefi tlws a gwarchodfa natur goediog, a heibio i olygfeydd godidog dros Fae Ceredigion

Llanbedrog
Llanbedrog


Ewch yn eich blaen ar hyd yr arfordir i Abermaw, lle mae llwybr 5.6 milltir / 9km yn codi i'r bryniau uwchlaw'r dref. Mae'r llwybr, sy'n arwain i Ddinas Oleu (man geni'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) a thrwy dir fferm a choetiroedd, yn cynnwys golygfeydd o hirbell dros Aber Mawddach a Phenrhyn Llŷn.

Awgrym i aros dros nos: Tywyn neu Fachynlleth.

Diwrnod 2

Gyrrwch trwy Aberystwyth i Ganolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Ponterwyd, lle mae taith 6 milltir / 10km i Bontarfynach yn cynnwys coetiroedd derw hynafol, hen weithfeydd mwyngloddio, llu o raeadrau rhuthrol a golygfeydd gwych dros Gwm Rheidol.  Yn dilyn hynny, ewch ymlaen ar hyd yr arfordir i ymuno â'r daith 21 milltir / 34km sy'n dilyn yr hen reilffordd rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan. Mae'n pasio Llanerchaeron, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn enghraifft prin o ystâd fonheddig sy'n dyddio'n ôl i'r ddeunawfed ganrif, ac sydd prin wedi newid yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf.   Os nad oes awydd cerdded y llwybr cyfan arnoch chi, gallwch gerdded rhannau o'r llwybr gyda'r posibilrwydd o ddychwelyd ar y bws i Aberaeron. Os am daith fyrrach, ewch o Aberaeron cyn belled â Llanerchaeron (ychydig o dan 2½ milltir / 4km). 

Aberaeron
Aberaeron


Awgrym i aros dros nos: Aberaeron.

Diwrnod 3

Ewch i bentref bach arfordirol Llangrannog i fynd am dro ar Lwybr Arfordir Ceredigion. Ar hyd y ffordd, fe welwch y graig arw a elwir yn Carreg Bica (yn ôl y chwedl, dant coll cawr lleol) a golygfeydd i'ch hudo dros Ynys Lochtyn, ynys lanwol las ar ben draw penrhyn cwta yng ngenau'r môr.

Pen Dinas
Pen Dinas


Ewch ymlaen i Sir Benfro ac i bentrefan arfordirol Pwllgwaelod, lle mae cylchdaith o amgylch clogwyni serth Pen Dinas, er yn gymharol fyr (3 milltir / 4.8km), yn cynnwys dringfeydd heriol (heb sôn am olygfeydd syfrdanol). 

Pwllgwaelod
Pwllgwaelod

 

Awgrym i aros dros nos: Abergwaun.

Diwrnod 4

Mae'r gylchdaith 3.6 milltir / 5.8km o bentref harbwr hynod Porthgain yn cynnwys traethau tywodlyd prydferth Traeth Llyfn ac Abereiddi (sy'n anarferol o ddu), a Sinc trawiadol Abereiddi (y 'Blue Lagoon'), sef hen chwarel lechi dan ddŵr sydd wedi dod yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer chwaraeon antur.

Traeth Llyfn Beach
Traeth Llyfn 


Gorffenwch bethau ar nodyn uchel ar Benmaen Dewi syfrdanol, trwy fynd am dro ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro rhwng Porthstinian a Phorthclais. Yn ogystal â golygfeydd godidog dros Ynys Ramsey a'r môr, mae'r rhan 5.9 milltir / 9.5km hwn o'r llwybr yn rhoi cyfle i chi gael cip ar ystod eang o fywyd gwyllt morol, o forloi a llamhidyddion i wylanwyddau, mulfrain a bilidowcars.

The old RNLI lifeboat station at St Justinians is the embarkation point for the Ramsey Island boat trips
Hen orsaf bad achub Porthstinian

 

Awgrym i aros dros nos: Tŷ Ddewi.