Ffordd yr Arfordir: Blas ar Fwyd

Mae Ffordd yr Arfordir, sy'n cynnwys Bae Ceredigion yn ei gyfanrwydd, o Aberdaron yn y gogledd i Dyddewi yn y de, yn 180 milltir / 290km ac yn un o dri llwybr cenedlaethol Ffordd Cymru. Yn hytrach na chyfres o gyfarwyddiadau anhyblyg, mae pob 'Ffordd' yn fan cychwyn i fynd i grwydro, gyda digonedd o gyfleoedd i fentro oddi ar y prif lwybr a chreu eith taith bersonol eich hun.

Mae'r rhaglen dridiau flasus hon yn rhoi cyfle i chi gael blas ar rai o'r bwydydd a'r diodydd gorau sydd gan Ffordd yr Arfordir i'w cynnig. Mae rhywbeth ar gael fydd at ddant pawb - boed yn bysgod ffres o'r môr, yn gig eidion a chig oen lleol, neu'n gyrfau a gwirodydd ardderchog sy'n ffrwydrad o flas Cymreig.

Diwrnod 1

Cychwynnwch y dydd trwy wlychu'r big ym mragdy Cwrw Llŷn ym mhentref arfordirol prydferth Nefyn. Mae'r bragdy lleol hwn yn cynhyrchu ystod o gyrfau blasus a wnaed â llaw ac sy'n cymryd ysbrydoliaeth gan dirwedd, chwedlau a hanes Cymru, yn ogystal â chynnig teithiau 'cefn llwyfan' sy'n codi cwr y llen ar y broses fragu.

Cwrw Llŷn
Cwrw Llŷn

 

Suggested overnight: Dolgellau.

Pan fyddwch wedi codi awydd am fwyd, dilynwch arfordir deheuol Penrhyn Llŷn i Gricieth a Bwyty Dylan's. Y bwyty hwn, gyda'i adeilad art deco ffasiynol ar lan y môr yng Nghricieth, yw'r lle perffaith i fwynhau blas y môr (rhowch gynnig ar gregyn gleision o'r Fenai, un o brydau arbennig y bwyty, wedi eu paratoi â gwin gwyn, hufen a garlleg). Opsiwn arall buasai ymweld â Portmeirion sydd gyda amryw o opsiynnau bwyta gan gynnwys Caffi'r Sgwâr, Caffi No 6 a Caffi Glas sy'n arbenigo mewn bwyd Eidalaidd gan gynnwys pisa, pasta, a salads. 

Yna dilynwch ffordd arfordirol yr A496 i gyfeiriad y de trwy Abermaw i Fwyty Mawddach ger Dolgellau, lle gallwch gael blas ar gig oen a chig eidion Eryri, gyda golygfeydd syfrdanol dros Aber Mawddach a Chader Idris fel saig ychwanegol.

Dylan's Criccieth Restaurant
Dylan's Criccieth

 

Awgrym i aros dros nos: Dolgellau.

Diwrnod 2

Ewch yn eich blaen ar hyd yr arfordir i Aberystwyth, lle cewch hyd i Ultracomida, bwyty a deli â dylanwad Sbaenaidd sy'n gwerthu ystod tan gamp o gawsiau lleol Ceredigion. Os am y bwyd môr mwyaf ffres, ewch i Farchnad Bysgod Jonah's i ddewis o ddalfa'r dydd. Os yw'n well gennych bod rhywun arall yn gwneud y gwaith coginio, archebwch fwrdd ym mwyty Pysgoty ar bwys yr harbwr. Dyma chwaer-sefydliad Jonah's, ac mae'r fwydlen yn llawn o gynnyrch a ddaw'n syth o donnau Bae Ceredigion.

O Aberystwyth, arhoswch ar y ffordd arfordirol braf ar hyd Fae Ceredigion tuag Aberteifi gosmopolitan, ffefryn ymysg rhai sy'n caru bwyd. Ewch draw i Crwst, caffi a deli sy'n arbenigo mewn bara, cacennau a chrwst wedi eu pobi'n ffres - a hynny mewn adeilad a arferai fod yn weithfa haearn ac yn ystafell arddangos ceir.

Awgrym i aros dros nos: Aberteifi..

Diwrnod 3

O Aberteifi, dim ond hop, cam a naid yw'r daith i Landudoch, lle mae bwydlen dymhorol ddeniadol y Ferry Inn yn llawn o fwydydd clasurol gyda dylanwadau cyfoes yn seiliedig ar gyflenwadau gan gigyddion, cawswyr, ffermwyr a physgotwyr gorau'r ardal. Mae Caffi Pwnc yn Nhrefdraeth hefyd yn hoffi cadw pethau'n lleol. Daw'r cynhwysion ar gyfer y prydau a'r byrbrydau blasus ond iachus o'r ardal gyfagos (ac o ardd y caffi ei hun).

The Ferry Inn
Mae'r lleoliad trawiadol ar lan y dŵr yn cyd-fynd yn berffaith â bwydydd gwobrwyedig y Ferry Inn

 

Dewch â'ch taith fwyd i ben yn St Davids Kitchen, Tyddewi, bwyty pridd-i'r-plât sy'n rhoi tyfwyr a chynhyrchwyr lleol wrth galon ei fusnes. Ynghyd a chig dafad o Ynys Ramsey, a physgod ffres o'r dyfroedd ger Penmaen Dewi, gallwch gael blas ar jin lleol a wnaed â chynhwysion botanegol wedi eu casglu â llaw.

St Davids Gin brewed with locally foraged botanicals
Jin Tyddewi, wedi ei wneud o gynhwysion botanegol lleol

 

Awgrym i aros dros nos:Tyddewi.

Ymlaen ar hyd Ffordd yr Arfordir

O ardal Eryri Mynyddoedd a Môr, mae Ffordd yr Arfordir yn ymlwybro trwy Geredigion i ogledd Sir Benfro. Cofiwch alw yma hefyd. Dilynwch y llwybr i'r pendraw.