Ffordd y Gogledd: Tirweddau a Golygfeydd
Gan ddechrau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a rhedeg i'r gorllewin am 75 milltir/120km i ben draw Môn, Ffordd y Gogledd yw un o dair Ffordd Cymru sydd wedi'u creu i arwain ac ysbrydoli ymwelwyr. Mae pob 'Ffordd' wedi'u dylunio fel profiad llyfn, nid llwybr sy'n rhaid ei ddilyn, gyda digon o wyriadau oddi ar y prif lwybr fel y gallwch grwydro ymhellach ac yn ddyfnach.
Yn y rhaglen bedwar diwrnod hon, byddwn yn eich tywys i rai o'r tirweddau mwyaf cofiadwy a'r golygfeydd mwyaf ysbrydoledig sydd i'w gweld ar Ffordd Gogledd Cymru ac o'i chwmpas; yn cynnwys bylchau mynyddig dramatig, clogwyni arfordirol creigiog, pensaernïaeth hanesyddol a dyffrynnoedd afon gleision.
Diwrnod 1
Dechreuwch eich taith yng Nghastell canoloesol y Fflint, a saif ar y lan lle mae'r Ddyfrdwy yn lledu ar ei ffordd tua'r môr. Hwn oedd y castell cyntaf i Edward y Cyntaf ei adeiladu yng Nghymru, ac mae'n dynodi'r porth i Ogledd Cymru.

Dilynwch wedyn drywydd hardd yr A494 trwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i Ruthun, wedyn ar yr A525/A542 trwy Fwlch yr Oernant i Langollen ac ymlaen i'r Waun.

Gyda chopaon ei bryniau yn borffor o flodau'r grug, ei bryngeiri Oes yr Haearn a safleoedd hanesyddol megis Abaty Glyn y Groes a Chastell y Waun, mae'r ffordd hon yn llawn dop o olygfeydd cerdyn post. Treuliwch beth amser hefyd i ddarganfod rhamant a heddwch Dyffryn Ceiriog, lle mae Afon Ceiriog yn llifo i'r Ddyfrdwy o 1,800 troedfedd / 548m uwchlaw lefel y môr trwy gyfres o raeadrau rhuthrol.

Awgrym i aros dros nos: Llanarmon, Dyffryn Ceiriog.
Diwrnod 2
Ewch yn eich ôl i Langollen, cyn gyrru trwy Ddyffryn godidog Clwyd tua'r arfordir i ymweld â Gwarchodfa Natur Leol Twyni Cinmel, sy'n gartref i lu o adar, planhigion morol prin ac hyd yn oed ambell forlo.

Ewch ar hyd ffordd arfordirol yr A55 heibio i Fae Colwyn a dilyn yr A470 ar hyd Ddyffryn Conwy i un o drysorau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gardd Bodnant, lle cewch hyd i lewntydd cymen, y Bwa Tresi Aur, terasau blodeuog, glynnoedd gwylltion a choed enfawr. Croeswch yr afon i yrru ar ffordd droellog y B5106 i Gonwy cyn dringo Bwlch Sychnant, un o dirnodau syfrdanol ond llai adnabyddus Gogledd Cymru.

Awgrym i aros dros nos: Conwy neu Penmaenmawr.
Diwrnod 3
Dilynwch yr arfordir i Fangor, cyn cael blas ar Barc Cenedlaethol Eryri trwy yrru oddi wrth y môr ar yr A5 - llwybr hanesyddol a beiriannwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg - ar hyd Dyffryn Ogwen ddirgel i Gapel Curig. Ewch yn eich blaen ar yr A4086 trwy dirwedd cyntefig, creigiog Bwlch Llanberis, gyda'r Wyddfa wrth eich hochr, ac anelu am Lanberis a Chaernarfon cyn dychwelyd i Fangor.

Mae'n werth oedi i gymryd tro ar y pier Fictoraidd hyfryd ym Mangor i weld golygfeydd hyfryd o'r Fenai, cyn gyrru dros Bont Britannia i Ynys Môn. Anelwch am eglwys wyngalchog San Cwyfan ('Yr Eglwys yn y Môr'), a saif ar ei hynys fach ei hun, nad oes modd cael mynediad ati oni bai am lanw isel. Mae'n lleoliad heddychlon, ar yr arfordir gogledd-orllewinol ger Aberffraw. Ymlaen â chi wedyn i Oleudy eiconig Ynys Lawd ger Caergybi (dewch â'ch binocwlars ar gyfer y golygfeydd syfrdanol a'r myrdd o adar), cyn mynd am dro ar Lwybr Arfordir Cymru rhwng Porth Llechog a Bae Cemaes
Awgrym i aros dros nos: Porth Llechog neu Fae Cemaes.
Diwrnod 4
Ewch yn ôl i'r tir mawr cyn gyrru ar hyd glan y Fenai, trwy Gaernarfon, ac ymlaen i Benrhyn gwyllt a gwych Llŷn. Mae'r Ardal hon o Harddwch Naturiol Eithriadol, sy'n rhimynnog o glogwyni môr aruthrol, baeau paradwysaidd a phentiroedd gwyntog, yn llawn hyd ei hymylon o ogoniant arfordirol.
Awgrym i aros dros nos: Abersoch.