Ffordd y Gogledd: Penwythnos hir yng Ngogledd Cymru

Gan ddechrau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a rhedeg i'r gorllewin am 75 milltir/120km i ben draw Môn, Ffordd y Gogledd yw un o dair Ffordd Cymru sydd wedi'u creu i arwain ac ysbrydoli ymwelwyr.  Mae pob 'Ffordd' wedi'u dylunio fel profiad llyfn, nid llwybr sy'n rhaid ei ddilyn, gyda digon o wyriadau oddi ar y prif lwybr fel y gallwch grwydro ymhellach ac yn ddyfnach.

Mae'r deithlen pedwar diwrnod hon yn rhoi digon o syniadau i chi am bethau i'w gweld a'u gwneud yn ystod eich penwythnos hir yng ngogledd Cymru, o weithgareddau awyr agored cyffrous a thraethau tlws i dreftadaeth ddiwylliannol a hanes hynafol.

Diwrnod 1

Bydd eich siwrne'n dechrau ym Meliden yn Sir Ddinbych, canolfan mwyngloddio fawr yn y 18fed ganrif. Crwydrwch o amgylch y pentref i weld olion ei orffennol diwydiannol ac yna crwydrwch i fyny i Graig Fawr, brigiad calchfaen yn uchel uwchben y pentref gyda golygfeydd gwych o arfordir Gogledd Cymru. Yna, gyrrwch drwy Dreffynnon ac yna ar hyd y rhan o'r Fflint i'r Wyddgrug o lwybr 83 milltir/134km Taith Hamdden Sir y Fflint. Mae'r llwybr 10.5 milltir/17km hwn yn gyflwyniad gwych i'r daith, gan gynnwys tirnodau megis Castell y Fflint a chyfleoedd lu i chwilota ar hyd y glannau (ar droed neu ar feic).

Flint Castle and Foreshore
Castell y Fflint a'r Blaendraeth


Teithiwch yn eich blaen o'r Wyddgrug drwy Ruthun a Bwlch yr Oernant ac yna ymlaen drwy Langollen i ymweld â Safle Treftadaeth y Byd Traphont a Chamlas Pontcysyllte. Mae cerdded ar draws traphont Pontcysyllte, sy'n cludo Camlas Llangollen 128tr/39m uwchben afon Dyfrdwy, yn rhywbeth sy'n rhaid i chi ei wneud (cyhyd â'ch bod ddim yn ofni uchder).

Pontcysyllte Aqueduct
Traphont Pontcysyllte


 
Awgrymir aros dros nos yn: Llangollen

Diwrnod 2

Dechreuwch drwy yrru i fyny Dyffryn Clwyd i Abergele. Yma, fe ddowch o hyd i olion atmosfferig Castell Gwrych, maenordy o'r 19eg ganrif oedd yn gartref i gyfres 2020 o'r rhaglen deledu I’m a Celebrity Get Me Out of Here. 

Gwrych Castle at night. Photo credit: Adam Paul Jones photography
Castell Gwrych gyda'r nos. © Adam Paul Jones 


Ewch yn eich blaen i gyrchfan glan y môr chwaethus Llandudno i grwydro ym Mharc Gwledig y Gogarth, mynydd bychan Llandudno sy'n gyfoeth o hanes naturiol a dynol.  Teithiwch i'r copa ar Dramffordd Pen y Gogarth neu Gar Cebl Alpaidd er mwyn cael ymweliad gwerth ei gofio. Yna, ewch draw i Gonwy a'r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain. Saif y tŷ yn harbwr Conwy; mae'r bwthyn bychan hwn yn mesur 6tr/1.8m o led wrth 10.2tr/3.1m o uchder.
 

Great Orme
Pen y Gogarth


 
Awgrymir aros dros nos yn: Conwy

Diwrnod 3

Dechreuwch drwy ymlwybro am ychydig filltiroedd tua Distyllfa Aber Falls yn Abergwyngregyn, i weld sut gwneir wisgi, jin a fodca gwobrwyedig (ac efallai flasu peth eich hun). Yna, cerddwch i fyny at y rhaeadr trawiadol a roddodd enw i'r ddistyllfa hon. 

Aber Falls Walk, Abergwyngregyn
Aber Falls Walk, Abergwyngregyn


Nesaf, ewch draw ar yr A55/A5 i Fethesda ac ymweld â'r uchelfannau yn Zip World, lle y gallwch reidio ar y wifren wib gyflymaf yn y byd, bownsio i lawr llwybrau creigiog ar gertiau a chrwydro'r chwarel mewn cerbyd oddi ar y ffordd. Gorffennwch eich diwrnod gyda phryd o fwyd yn The Slate/Y Llechan, gwesty a chegin chwaethus a modern ger Bangor.

Quarry Karts, Zip World
Cartiau, Zip World



Awgrymir aros dros nos yn: Bangor

Diwrnod 4

Ewch draw i Ynys Môn i ymweld â Gerddi Plas Cadnant. Saif yr ardd hanesyddol hon ar fryn sy'n edrych dros y Fenai. Roedd wedi gordyfu a heb gael ei chyffwrdd am flynyddoedd cyn iddi gael ei hadfer. Nesaf, ewch ar daith ar gwch ar hyd y Fenai (dewiswch rhwng cyffro'r RibRide ym Mhorthaethwy neu'r Seacoast Safaris mwy hamddenol ym Miwmares). Yn olaf, teithiwch i'r gorllewin ar draws Ynys Môn i gerdded ar y traeth o Goedwig Niwbwrch (cartref i wiwerod coch a chlwydfannau mawr o gigfrain) i Ynys Llanddwyn - penrhyn bychan sy'n gysylltiedig â Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru. I weld pethau mewn goleuni gwahanol, arhoswch tan ar ôl y machlud er mwyn syllu ar y sêr yn yr Awyr Dywyll.

Awgrymir aros dros nos yn: Porthaethwy