Ffordd y Gogledd: Cestyll a Mannau Hanesyddol

Gan ddechrau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a rhedeg i'r gorllewin am 75 milltir/120km i ben draw Môn, Ffordd y Gogledd yw un o dair Ffordd Cymru sydd wedi'u creu i arwain ac ysbrydoli ymwelwyr.  Mae pob 'Ffordd' wedi'u dylunio fel profiad llyfn, nid llwybr sy'n rhaid ei ddilyn, gyda digon o wyriadau oddi ar y prif lwybr fel y gallwch grwydro ymhellach ac yn ddyfnach.

Bydd y deithlen pedwar diwrnod hon yn eich cyflwyno i gyfoeth o adeiladau hanesyddol a safleoedd hynafol - pob un yn ferw o filoedd o flynyddoedd o fythau, chwedlau a threftadaeth.

Diwrnod 1

Bydd eich siwrne'n cychwyn yn Erddig ger Wrecsam. Cewch gipolwg ar y ddwy ochr o fywyd yn y plasty 17eg ganrif hwn, sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, drwy grwydro drwy ystafelloedd mawreddog y perchnogion ac ystafelloedd di-nod y gweision. Yna, ewch draw i weld Ffynnon Santes Gwenffrewi yn Nhreffynnon (a adnabyddir hefyd fel 'Lourdes Cymru'). Er bod y capel coeth a saif yma heddiw yn dyddio'n ôl i'r 15eg ganrif, mae pererinion wedi bod yn ymweld â'r safle am dros 1,000 o flynyddoedd.

St Winefride’s Well, Holywell
Ffynnon Santes Gwenffrewi, Treffynnon


Yna, ewch draw i Gastell Rhuddlan. Mae'r gaer 13eg ganrif hon yn gamp beirianneg amlwg yn sgil ei dyluniad consentrig arloesol 'waliau o fewn waliau' a'r ffaith bod y rhai a'i hadeiladodd wedi gwyro afon Clwyd o'i llwybr dolennog i ddarparu mynediad ar y dŵr.

Rhuddlan Castle
Castell Rhuddlan

 
Awgrymir aros dros nos yn: Rhuddlan

Diwrnod 2

Dilynwch Ffordd Gyflym yr A55 i Landudno a Gweithfeydd Copr y Gogarth ar y pentir garw uwchben y dref. Gyda rhwydwaith o dwneli a gweithfeydd wyneb sy'n dyddio'n ôl 4,000 o flynyddoedd, dyma'r chwarel cynhanes hysbys fwyaf yn y byd.

Great Orme mines
Mwyngloddiau Pen y Gogarth


Cariwch ymlaen ar hyd yr arfordir i Gonwy i brofi grym cynhanes Castell Conwy (Safle Treftadaeth y Byd) a chrwydro o amgylch Plas Mawr, y tŷ tref Oes Elisabeth sydd wedi'i gadw orau ym Mhrydain. Yna, crwydrwch ar hyd lesni Dyffryn Conwy i Castell Gwydir yn Llanrwst, un o blastai Tuduraidd mwyaf nodedig Cymru.  Cadwch lygad allan am yr Ystafell Fwyta gyda'i phaneli pren, a ddychwelodd i Gastell Gwydir ar ôl cyfnod maith yn yr Unol Daleithiau fel rhan o gasgliad y teicŵn cyfryngau William Randolph Hearst.

Gwydir Castle
Castell Gwydir


Awgrymir aros dros nos yn: Betws-y-Coed

Diwrnod 3

Crwydrwch draw i Ynys Môn, gan groesi ar draws pont grog hanesyddol Pont Menai. I ddechrau, ewch draw i Gastell Aberlleiniog rhwng Biwmares a Phenmon. Cafodd ei adeiladu'n wreiddiol yn yr 11eg ganrif; dyma drysor o gaer guddiedig sy'n sefyll yng nghanol gwarchodfa natur goetirol. Yna, ewch draw i Gemaes ar arfordir y gogledd a cherddwch at olion Fictoraidd Gwaith Brics Porth Wen, sy'n atgof atmosfferig o orffennol diwydiannol Môn. Yna, draw â chi i Feini Hirion Pentre Feilw ger Caergybi. Gan ymestyn 10tr/3m mewn uchder, mae tarddiad y pâr hyn o fonolithau o'r Oes Efydd yn doreth o ryfeddodau, er y dywed chwedlau wrthym eu bod yn arfer bod yn rhan o gylch meini llawer mwy. 

Awgrymir aros dros nos yn: Caergybi neu Fae Trearddur

Diwrnod 4

Teithiwch yn ôl i grwydro'r tir mawr ac i weld Castell Caernarfon. Gyda'i dyrau octagonaidd uchel a'i waliau anrheiddiadwy, mae'n hawdd gweld pam ei fod yn cael ei ystyried yn un o’r adeiladau canoloesol mwyaf  trawiadol (ac yn Safle Treftadaeth y Byd hefyd). 

Caernarfon Castle
Caernarfon Castle

Ewch yn eich blaen i Lanberis i weld Llafn y Cewri sy'n gerflun haearn 20tr/6m o gleddyf sy'n coffáu Tywysogion Gwynedd, cyn-arweinwyr Cymru. Yna, cerddwch ar hyd glannau Llyn Padarn ac heibio i Gastell Dolbadarn, un o'n caerau cynhenid mwyaf godidog. Yna, teithiwch ar hyd erwinder Pen-y-Gwryd a Nant Gwynant i Graflwyn a Dinas Emrys, bryn garw, creigiog sy'n ferw o fythau a chwedlau (cadwch lygad allan am ddreigiau), sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Awgrymir aros dros nos yn: Beddgelert