Empress @ Graig Wen
Ar gyfer glampio teuluol hawdd ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac i gyplau sy'n ffafrio ychydig o gyffyrddiadau modern, mae Empress yn wagen glyd a chwaethus, gyda chyfleusterau en-suite, wedi'i lleoli ger Llwybr Mawddach sy'n cysylltu Abermaw a Dolgellau. Yn glyd beth bynnag fo'r tywydd, mae'r wagen wedi'i hinswleiddio'n llawn gyda gwresogydd is-goch ar gyfer cynhesrwydd ar glec botwm. Mae goleuadau trydan a phwynt gwefru USB. Mae Empress yn cysgu 2 - 4 gyda gwely dwbl tynnu i lawr a byncs dewisol i blant. Gallwch baratoi prydau syml yn y gegin gyda hob nwy, sinc a'r defnydd o rewgell/oergell wrth law. Darperir offer coginio a llestri. Mae'r ystafell gawod en-suite fach yn cael ei gwresogi ac mae ganddi hefyd fasn ymolchi a thoiled sy'n fflysio. Byddwch yn aros ar safle glampio a gwersylla arobryn lle gallwch archebu croissants a choffi i frecwast a phrynu cwrw a seidr lleol oer i fwynhau syllu ar y sêr o amgylch y tân.
Mwynderau
- Parcio
- Derbynnir cardiau credyd
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Llwybr beicio gerllaw
- WiFi am ddim
- Croesewir teuluoedd
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Dim Ysmygu
- Te/Coffi