Dyffryn Conwy a Hiraethog

Dyma ardal sy’n llawn chwilfrydedd ac yn dra gwahanol i fynyddoedd cyfagos Eryri sy’n arw, gwydn a chreigiog. Mae Afon Conwy yn llifo drwy ddyffryn eang cysgodol ble y ceir tir ffermio maethlon. Ceir coedwigoedd trwchus ar yr ochr orllewinol a gweunydd grug a choetir Hiraethog (a adwaenir hefyd fel Mynydd Hiraethog) ar yr ochr ddwyreiniol, ehangder mawr o ucheldir nad anturiodd neb iddo. At ei gilydd, mae hi’n ardal ag iddi amrywiaeth eang, gyda rhaeadrau aflonydd, ceunentydd coediog, llynnoedd mynydd, rhosydd uchel a darn hyfryd o arfordir gogledd Cymru. Mae yma hefyd ddewis da o leoedd i aros – popeth o drefi a phentrefi marchnad traddodiadol i ganolfannau glan môr.

Betws y Coed

Dyma un o’r lleoedd yna nad ydynt byth ar gau, hyd yn oed ar ddydd Sul tywyll ym mis Rhagfyr. Sut all y dref beidio â chau? Mae yma ormod o alw. Mae’r ganolfan fynydd brysur hon, y pentref sy’n ‘borth swyddogol i Eryri’ mewn lleoliad prydferth yng nghanol coed a glannau afon, ac wedi bod yn boblogaidd ers amseroedd Fictoraidd ac ers dyfodiad y rheilffordd. Mae yma nifer o atyniadau gan gynnwys amgueddfa rheilffordd, cwrs golff, anturiaethau rhaffau uchel, llwybrau cerdded wedi’u harwyddo a’r Rhaeadr Ewynnol adnabyddus. Mae gan y dref Ganolfan Wybodaeth Parc Cenedlaethol Eryri wych, ynghyd ag arddangosfa Tywysogion Gwynedd ac amrediad arbennig o siopau’n gwerthu crefftau, dillad ac offer awyr agored o ansawdd. Mae yma nifer o weithgareddau hefyd, gan gynnwys dringo, beicio mynydd a marchogaeth. Mae Betws-y-coed yn ganolfan gyfleus ar gyfer Teithiau Hanesyddol Tywysogion Gwynedd, llwybrau’n seiliedig ar lyfrau Sharon Penman.

Capel Curig

Mae’r pentref hwn yn agos i holl diroedd pwysicaf Eryri, ac yn gyfarwydd i bawb sy’n ystyried eu hunain yn ddringwyr ac yn fynyddwyr. Mae’r siopau lleol yn gwerthu dillad mynydda a dillad sy’n addas ar gyfer yr awyr agored. Dyma hefyd gartref Canolfan Fynydd Genedlaethol Plas y Brenin sy’n cynnig cyrsiau a gwersi gweithgareddau awyr agored i bob gallu.

Cerrigydrudion

Pentref ar yr A5 ger y porth deheuol i Hiraethog, gyda llyn 2½-acr ar gyfer pysgota â phlu ynghyd â chanolfan go-cartio fwyaf Cymru. Mae gan y cronfeydd dŵr gerllaw – Llyn Brenig a Llyn Alwen – ddigonedd o gyfleusterau hamdden sy’n cynnwys cerdded, beicio, pysgota a hwylio. Ewch i ganolfan ymwelwyr rhagorol Brenig yn gyntaf. Ewch i Fforest Glocaenog ar gyfer mwy o feicio a cherdded (a marchogaeth yn ogystal). Yn ogystal â phentref Llanfihangel Glyn Myfyr gerllaw, mae Cerrigydrudion yn ganolfan dda ar gyfer crwydro gogledd Cymru i gyd.

Conwy

Mae tref gaerog Conwy a’i chastell o garreg dywyll yn creu gwir awyrgylch ganoloesol.  Mae yna olygfeydd godidog o’r gaer (Safle Treftadaeth y Byd UNESCO) ac o furiau’r dref i lawr i’r strydoedd cul ac ar draws yr aber. Ceir darn bach o hanes bron ym mhobman – Plas Mawr Elisabethaidd, Aberconwy House, pont grog gastellaidd Thomas Telford a’r ‘tŷ lleiaf’ unigryw. Mae gan Ganolfan Groeso Conwy arddangosfa nodedig sy’n adrodd storïau Tywysogion Gwynedd gydag arddangosfeydd rhyngweithiol dychmygus. Mae atyniadau eraill yn cynnwys mordeithiau ar hyd yr afon, oriel gelf a gwarchodfa natur RSPB ag iddi ganolfan ymwelwyr sydd newydd gael ei gwella’n ddiweddar. Mae Gerddi Bodnant, Canolfan Bwyd Cymru Bodnant a man cychwyn llwybr hirbell Llwybr y Cambrian, i gyd gerllaw.

Llanfairfechan

Lleoliad ar lan y môr â’r mynyddoedd yn gefn iddo gyda darn go dda o draeth tywodlyd. Mae gweithgareddau yn cynnwys hwylfyrddio, golff, pysgota a chroce. Gwylio adar yng Ngwarchodfa Natur Traeth Lafan. Canolfan gerdded dda fel yr adlewyrchir yn ei achrediad ‘Croeso i Gerddwyr’ – gofynnwch am y cyhoeddiad ‘Teithiau Cerdded Llanfairfechan’ yng Nghanolfan Groeso Conwy, sy’n disgrifio pum taith gerdded gwledig a threfol, neu lawrlwythwch ‘Teithiau Cerdded Llanfairfechan’ o www.conwy.gov.uk. 

Llangwm

Pentref tawel ar Afon Medrad oddi ar ffordd yr A5. Canolfan gerdded dda.

Llanrwst

‘Prif ganolfan’ hardd a thref farchnad hanesyddol Dyffryn Conwy. Mae Castell Gwydir a Chapel Gwydir Uchaf gerllaw yn datgelu mwy am orffennol cythryblus yr ardal. Gofynnwch yn y siopau lleol am y daflen teithiau cerdded cylchol neu lawrlwythwch hi o www.conwy.gov.uk. Yn ogystal, ceir Llwybr Cerdded Y Fonesig Mary a gafodd ei sefydlu’n ddiweddar yn Fforest Gwydyr gerllaw, llwybr sy’n eich cyflwyno i hanes lleol (a chymeriadau fel Dafydd ap Siencyn, ‘Robin Hood’ y fforest ei hun) ynghyd â datgelu golygfeydd rhyfeddol dros Lanrwst (ewch i Ganolfan Groeso Llanrwst am fanylion).

Penmachno

Pentref mynydd wedi’i leoli’n hardd ymhlith cefn gwlad a bryniau coediog agored. Safle hudol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gerllaw – Tŷ Mawr Wybrnant oedd man geni’r Esgob William Morgan a sicrhawyd goroesiad yr iaith drwy ei gyfieithiad o’r Beibl i’r Gymraeg. Mae gan Fforest Penmachno rwydwaith datblygedig iawn o lwybrau beicio mynydd. Mae canllaw Teithiau Cerdded Hwylus Penmachno a Dolwyddelan (yn cynnwys mapiau manwl) ar gael o Ganolfan Groeso Betws-y-coed. Mae Anturiaethau Tanddaearol Go Below, sydd wedi’i lleoli yng Nghaffi Rhaeadr y Graig Lwyd (Conwy Falls) yn cynnig teithiau cyffrous i fwynglawdd segur.

Penmaenmawr

Cyrchfan wyliau gyda phromenâd atyniadol yn edrych ar draws Bae Conwy at Ynys Môn. Traeth tywodlyd, pwll padlo, maes chwarae i blant. Amgueddfa fechan yn dwyn atgofion o orffennol chwarelyddol Penmaenmawr. Teithiau cerdded lleol da yn y wlad ac ar hyd yr arfordir, gan gynnwys ‘taith y chwarelwr’ wedi’i harwyddo a llwybr golygfaol Gogledd Cymru. 

Pentrefoelas

Arferai coetsis mawr stopio yma ar y brif ffordd i ogledd Cymru, ym mhentref mewn lleoliad da ar gyfer archwilio Dyffryn Conwy a Hiraethog. Mae teithwyr heddiw – yn enwedig y rhai sy’n hoff o siocled – yn galw yn Nhŷ Siocled ac Ystafell De Riverside ar gyfer pethau da cartref blasus. Gwiriwch amseroedd agor cyn ymweld.

Rowen

Un o’r pentrefi bach tlysaf yng Nghymru. Teithiau cerdded atyniadol ymhlith y bryniau gan ddilyn y Ffordd Rufeinig. Gerddi Dŵr Conwy (dyfrgwn, pysgodfa, canolfan ddŵr a thŷ ymlusgiaid) gerllaw.

Trefriw

Mae melin wlân hir sefydlog y pentref yn cynhyrchu tapestrïau a brethynnau cartref unigryw Cymreig. Mae Llyn Crafnant, llyn pysgota, a Llyn Geirionydd, sy’n boblogaidd ar gyfer chwaraeon dŵr, yn celu yn y bryniau coediog uwchben. Archwiliwch amgylchoedd darluniadol y pentref drwy ddilyn rhai o deithiau Trywydd Trefriw.