Dringo

Fe ŵyr pawb am harddwch Eryri, ond ei heriau amrywiol sy’n denu dringwyr i’r ardal. Mae’r mynyddoedd a’r arfordir fel ei gilydd yn cynnig pob math o gyfleoedd dringo i’r rhai sydd ond megis dechrau yn ogystal â’r rhai sy’n ymddiddori mewn dringo.

Mae’r rhanbarth wedi denu dringwyr o bedwar ban byd ers sawl blwyddyn. A dweud y gwir, defnyddiodd Syr Edward Hillary a’i dîm lethrau garw Eryri i ymarfer arnynt cyn concro Everest. O’r wyneb serth mwyaf anhygoel i inclein i ddechreuwyr, mae tirwedd ddramatig ardal Eryri Mynyddoedd a Môr yn sicrhau heriau di-bendraw i ddringwyr o bob gallu.

O glogwyni arfordir Penrhyn Llyˆn i uchelfannau Eryri mae’r amrywiaeth o gyfleoedd dringo yn ardal Eryri Mynyddoedd a Môr yn anhygoel. Mae’r lleoliadau mwyaf poblogaidd yn cynnwys wynebau clogwyni uchel Tremadog a Bwlch Llanberis.

Fodd bynnag mae nifer o waliau dringo dan do, megis canolfan ddringo Beacon yng Nghaernarfon yn darparu cyfleusterau a gwersi gwych i’r sawl sydd eisiau dysgu ac i’r dringwyr mwy profiadol hynny sy’n dymuno parhau â’r momentwm yn ystod cyfnodau o dywydd garw.