Deheudir Eryri

Mae Eryri yn cychwyn yn y pen gogleddol pellaf o amgylch Yr Wyddfa. Ond nid yw’n gorffen yma. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ymestyn tua’r dwyrain a’r de, drosodd i’r Bala a bron yr holl ffordd i lawr i Fachynlleth. Mae’r ucheldiroedd hyn yn wyrddach ac yn fwy crwn na’r rhai gogleddol creigiog – ond maent yn fynyddig iawn o hyd. Mae Cader Idris yn Nolgellau a’r Aran mynyddoedd yr Arenig uwchben Y Bala yn gadarnleoedd uchel, sy’n edrych dros y dirwedd o dir fferm traddodiadol, fforest a llynnoedd hardd tu hwnt. Ceir beicio mynydd gyda’r gorau yn y byd a theithiau cerdded sy’n addas i’r teulu oll ym Mharc Coedwig Coed y Brenin.

Bala

Tref fechan sy’n ganolfan awyr agored fawr i Eryri ac yn enwog drwy’r byd am ddigwyddiadau megis canŵio dŵr gwyn, nofio, beicio a thriathlon. Ond nid oes rhaid i chi fod yn ironman i werthfawrogi’r Bala. Ceir apêl eang i’r arlwy o weithgareddau awyr agored, gyda dewis da o rai ysgafn ac anturus. Mae’r rhan fwyaf o’r bwrlwm wedi’i leoli ar Lyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru sy’n 4½ milltir o hyd. Mae Afon Tryweryn gerllaw hefyd yn ased dyfrol mawr, sydd hyd yn oed yn darparu dŵr gwyn dibynadwy yn ystod yr haf pan mae sawl afon yn isel. Bala yw un o’r ychydig drefi yng Nghymru sydd â’r achrediad ‘Croeso i Gerddwyr’ (www.walkersarewelcome.org.uk). Mae llwybrau golygfaol yn cynnwys taith gerdded o gwmpas y llyn (gallwch hefyd deithio ar hyd ei lan deheuol ar drên stêm lein gul Rheilffordd Llyn Tegid). Ceir beicio i’ch ysbrydoli hefyd, gyda chwe llwybr beic wedi’u harwyddo a mynyddoedd Aran ac Arenig uwchben. Mae’r Bala yn gyforiog o ddiwylliant a hanes Cymreig – ceir plac yn adrodd hanes enwog merch un ar bymtheg oed, Mari Jones, a gerddodd i’r Bala dros y mynyddoedd i nôl Beibl Cymraeg ym 1800. Mae cysylltiadau o’r fath yn parhau: mae’r ganolfan weithgareddau ar gyfer Urdd Gobaith Cymru wedi’i lleoli yng Nglan-llyn gerllaw (lle gall grwpiau o deuluoedd aros hefyd).

Corris

Cyn bentref chwarel ag iddo harddwch hen ffasiwn ac anghonfensiynol wedi’i leoli o fewn Coedwig Dyfi. Ceir yma gyfoeth syfrdanol o atyniadau lleol, sy’n cynnwys Labrinth y Brenin Arthur, Cyrch y Beirdd a Chanolfan Grefftau Corris, ynghyd ag amgueddfa a Rheilffordd trên stêm lein gul Corris. Teithiau tanddaearol gyda’r Corris Mine Explorers, beicio mynydd gwefreiddiol yn y goedwig, pysgota penigamp yn Llyn Myngul a theithiau cerdded heriol ar Gader Idris.

Dinas Mawddwy

Pentref mewn lleoliad Alpaidd ei naws ymhlith llechweddau coediog serth. Mae canolfan grefftau fawr mewn melin wlân flaenorol yn atyniad poblogaidd. Ewch am dro i fynyddoedd Bwlch y Groes, y bwlch uchaf yng Nghymru. Mae’r pentref bychan hefyd yn ganolfan dda ar gyfer cerdded a physgota.

Dolgellau

Tref sy’n mynd o nerth i nerth. Adlewyrchir ei hagwedd flaengar yn yr ystod o ddigwyddiadau a gwyliau lleol, gweithgareddau awyr agored a lleoedd i aros a chael bwyd, sy’n gwella byth a beunydd. Ond adnoddau naturiol Dolgellau yw ei gaffaeliad pennaf o hyd. Mae’r dref farchnad hardd o garreg dywyll wedi’i lleoli islaw Cader Idris, y ‘Gader Idris’ chwedlonol, sy’n agosáu at Aber Mawddach yn ei holl ogoniant. Galwch draw yn Nhŷ Siamas, Canolfan Genedlaethol Cerddoriaeth Werin Cymru. Mae’r dref yn un o’r canolfannau mwyaf hwylus ar gyfer archwilio holl Fynyddoedd ac Arfordir Eryri – ond peidiwch â cholli allan ar y mannau prydferth lleol megis Llwybr Cynwch a Thrywydd Mawddach ar hyd glannau’r dŵr am 9½ milltir i Abermaw (ceir hefyd Llwybr Mawddach sy’n hirach ac yn fwy mynyddig). Mae beicio a marchogaeth yn boblogaidd yn lleol hefyd – mae Dolgellau yn ganolfan ddewisol arbennig ar gyfer ‘Gwyliau Beicio’ gydag amrediad gwych o lwybrau ar y ffordd ac oddi ar y ffordd.  Mae Parc Coedwig Coed y Brenin gerllaw, gyda llwybrau beicio mynydd i bobl o bob gallu ynghyd â llu o atyniadau a chyfleusterau awyr agored eraill, sy’n cynnwys llwybrau y gellir lawrlwytho ffeiliau sain MP3 ar eu cyfer.