Cynnyrch Lleol Eithriadol Eryri

Does dim ffordd well o gael blas go iawn ar le nac wrth fwynhau’r cynnyrch lleol. Yn fwyd, yn ddiod neu’n anrheg i gofio’r gwyliau, mae mwy na digon o ddewis yn aros amdanoch ledled Eryri a Phen Llŷn. Felly os ydych chi’n ymweld am y dydd, neu’n aros am wythnos neu fwy mewn bwthyn, pabell neu garafán, dyma syniadau am lefydd i fynd i lenwi’ch oergell, eich basged a’ch bol!

Llenwi’r Fasged Bicnic

Os daw’r haul allan i wenu does dim i guro picnic ar wyliau, ac mae digonedd o lefydd ar draws yr ardal sy’n cynnig danteithion lu ar gyfer cinio blasus. Os ydych yng nghyffiniau Caernarfon beth am alw yng Nghanolfan Arddio Fron Goch? Yn un o ganolfannau garddio mwyaf gogledd Cymru - ynghyd â chaffi, planhigion a nwyddau i’r cartref - mae yma siop yn gwerthu llond gwlad o gynnyrch lleol ffres gan gynnwys cigoedd, bara, llysiau a ffrwythau a chacennau. 

Ochrau Pwllheli wedyn mae siop Spar ar y maes yn enwog ar draws yr ardal am yr ystod anhygoel o gynnyrch lleol o’r safon uchaf sy’n llenwi ei silffoedd. Gyda thatws ac wyau o ffermydd lleol, cig o gownter y cigydd a thameidiau melys a sawrus o gownter y deli, yn ogystal â hanfodion eraill ar gyfer eich gwyliau - mae popeth yma dan un to.

Draw yn Harlech mae siop Y Groser yn hudo cwsmeriaid ben bore gydag arogl diguro eu bara ffres. Dewch yma i fachu torth, croissants, caws, coffi a chwrw - popeth yn lleol ac o safon arobryn. Mae’r Groser hyd yn oed yn cynnig gwasanaeth danfon yn lleol ar unrhyw archebion dros £25, ac yn cynnig paratoi picnic ar eich cyfer. Beth am fynd amdani i sicrhau gwyliau hamddenol, llawn bwydydd blasus? 

The Harlech Grocer © Hawlfraint y Goron © Crown copyright (2024) Cymru Wales

 

The Harlech Grocer © Hawlfraint y Goron © Crown copyright (2024) Cymru Wales

Mae’n bosib iawn eich bod yn cynllunio cerdded ar hyd rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn ystod eich ymweliad. Os ydych chi’n gwneud hynny yng nghyffiniau Nefyn, Pwllheli neu Aberdaron, da chi cofiwch bicio mewn i Fecws Islyn. Mae’r becws poblogaidd hwn yn cynnig diodydd poeth, byrbrydau a digonedd o ddanteithion sawrus a melys. Neu os am hufen iâ bach fel un hwrê olaf i orffen y diwrnod, ewch am un sydd wedi ei wneud yn lleol. Mae digonedd o ddewis rhwng Glaslyn ym Meddgelert, Glasu ym Mhwllheli, neu’r enwog Cadwaladers yng Nghricieth, Porthmadog a Betws-y-Coed.

Cig a Physgod 

Y peth sydd wir yn gwneud i wyliau deimlo fel gwyliau i lawer un yw barbeciw, ac os ydych chi’n un sy’n mwynhau tanio’r siarcol a blasu’r mwg yna gwnewch yn siŵr bod yr hyn sydd ar y gril yn haeddu ei le.

Mark Watkins yw’r cigydd profiadol sy’n rhedeg y sioe yn siop Cigydd Bala Butcher. Mae’r busnes teuluol a sefydlwyd yn 2008 ar agor chwe diwrnod yr wythnos, ac mae eu holl gynnyrch yn dod gan ffermwyr a’r farchnad da byw yn Bala; dyna i chi beth yw cynnyrch lleol! Gan gipio’r Aur yng Ngwobrau The Great British Butcher’s Award 2019, gallwch edrych ymlaen at gig a physgod o safon yma, ac mae modd prynu iogwrt, llaeth, caws ac wyau lleol wrth y cownter hefyd.

Os ydych chi’n aros ym Mhen Llŷn beth am bicio draw at gigydd Poveys ym mhentref Chwilog? Un teulu sydd yng ngofal yma ers 1948, ac maent yn sicr wedi llwyddo i gynnal y safon dros y blynyddoedd. Gyda chig oer i lenwi brechdan, darnau mawr o gig o bob math, a chynnyrch wedi eu paratoi gan gynnwys byrgers, cebabs, peli cig a chyw iâr mewn marinâd, ewch chi’n sicr ddim oddi yma yn waglaw.

A chithau ar eich gwyliau ger y môr, efallai mai bwyd môr sy’n dod a dŵr i’ch dannedd, felly Blas y Môr ym Mhorthmadog yw’r lle i chi. Mae’r siop yn cynnig ystod ardderchog o gynnyrch gan gynnwys cregyn gleision, macrell, lleden lefn a chranc parod i enwi dim ond rhai. Mae’r tîm yn fwy na hapus i roi cyngor ar brydau a chyfuniadau posib, felly gallwch gerdded i mewn i'r siop a phrynu’r holl gynhwysion sydd ei angen arnoch ar gyfer pryd pysgod blasus.

Torri Syched 

Nawr bod y bwyd wedi ei sortio, ymlaen â ni at y ddiod. Ydych chi’n chwennych seidr oer ar ddiwrnod poeth? Siop Stori yn Bala yw’r lle perffaith i fynd felly, gan eu bod newydd dderbyn Gwobr Aur CAMRA ‘Tafarn Seidr y Flwyddyn’. Mae’r siop sydd wedi ei lleoli ar y Stryd Fawr yn Bala hefyd yn gwerthu cwrw, gwin a gwirodydd lleol yn ogystal â llawer o ddewis o ddiodydd di-alcohol.  Beth am fwynhau llymaid yma tra eich bod yn trio penderfynu beth i’w brynu? Os ydych chi’n mwynhau cerddoriaeth fyw mae’n werth cadw llygaid ar eu nosweithiau cerddorol hefyd.

Mae’r farchnad gin wedi dod yn gynyddol gystadleuol yn y blynyddoedd diweddar, ac un cwmni sy’n prysur ennill enw da i’w hunain yw Dyfi Distillery, sydd â siop yng Nghanolfan Grefftau Corris. Mae’r ddistyllfa eisoes wedi ennill fflyd o wobrau am eu cynnyrch gan gynnwys Gwobrau Aur yn y Great British Food Awards, y World Gin Awards a The Spirit Business. Oes angen dweud mwy? Brysiwch draw am flas.

Hawdd fyddai meddwl bod rhywbeth arbennig yn y dŵr yn Nyffryn Nantlle wrth flasu cynnyrch arbennig Bragdy Lleu a Pant Du. Cwrw yw’r cynnig ym Mragdy Lleu, wedi ei  wneud â chynhwysion naturiol o’r safon uchaf. Mae’r cwrw sy’n cael ei enwi ar ôl cymeriadau o chwedlau enwog y Mabinogi eisoes wedi ennill sawl gwobr Great Taste. Yng Ngwinllan a Pherllan Pant Du wedyn, mae’r criw yn creu gwin, seidr, sudd ffrwythau a mêl ar y safle. Beth am alw draw i fwynhau cinio yn eu caffi cyn galw yn y siop i brynu’r cynnyrch gwobrwyedig?  

Mae sawl stop i dorri syched ym Mhen Llŷn hefyd. Am laeth ac ysgytlaeth ffres, mae Y Sied Laeth yn wasanaeth helpu-eich-hunain sydd ar gael yn Nefyn, Pwllheli a Llanbedrog. Gallwch dreulio oriau wedyn yn astudio’r dewis di-ddiwedd o win, cwrw a gwirodydd sy’n llenwi silffoedd Gwin Llŷn ar y maes ym Mhwllheli. A Cwrw Llŷn yn Nefyn yw’r lle i fod i flasu pob math o gwrw, o gwrw euraidd i IPA neu bilsner fel Cwrw Largo. Mae’r cwrw yn llifo a’r croeso yn gynnes yma bob amser.  

Anrhegion

Un o bleserau diwedd gwyliau yw oedi’n hir mewn amryw siopau yn dewis anrheg; boed hwnnw i rywun arall neu i chi eich hun! Ledled Eryri a Phen Llŷn mae dewis helaeth o siopau a llecynnau unigryw ble’r ydych yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth arbennig i fynd adref gyda chi; â stamp yr ardal arno wrth gwrs.

Ym Mharc Gwledig Glynllifon mae siop Adra yn byw. Mae popeth sy’n cael ei werthu yma unai wedi eu gwneud yng Nghymru, wedi eu dylunio gan ddylunwyr o Gymru, neu’n amlygu geiriau a sloganau Cymraeg. O nwyddau i’r cartref a’r ardd, gemwaith a chardiau di-rif, mae digon o ddewis i blesio pawb. Lawr y lôn yn nhref Caernarfon ei hun wedyn mae Cei Llechi yn gartref i gasgliad o artistiaid a gwneuthurwyr lleol. Mae’r artistiaid Lisa Eurgain a Beth Horrocks wedi eu lleoli yma, yn ogystal â’r gemydd Crefft Arian i enwi dim ond llond llaw. Dewch draw i weld ystod y dalent creadigol sydd yn yr ardal hon. 

Os am gael digon o ddewis mewn un lle yna beth am alw heibio Canolfan Grefftau Corris. Beth sy’n arbennig am y lle hwn yw bod modd gweld yr artistiaid wrth eu gwaith yn y naw gweithdy crefft sydd ar y safle. O grochenwaith i emwaith, mae’n hawdd treulio’r prynhawn yma yn edmygu’r sgiliau a’r cynnyrch gorffenedig. Anrhegion cyfoes gyda theimlad Cymreig iddynt sydd ar gael yn Siop Ria, Y Bala. Mae yma gynnyrch gofal corff, anrhegion babis, canhwyllau, gemwaith a llawer mwy.

Does dim prinder siopau neis ym Mhen Llŷn chwaith. Mae Oriau Pwlldefaid, Pwllheli yn cynnig anrhegion o bob math wedi eu personoli gydag enwau gan gynnwys pyrsiau plant a siwmperi fleece cynnes - jest y peth i’w gwisgo i gynhesu ar ôl bod yn nofio yn y môr! Heb anghofio Cwt Tatws, sydd wedi ei lleoli ar fferm Tywyn ym mhentref Tudweiliog. Y teulu sy’n ffermio ar fferm Tywyn sydd wedi agor y siop hon, gan gynnig casgliad gwreiddiol ac unigryw i chi, eich cartref a’ch gardd. Beth am fwynhau paned a thro ar y traeth cyfagos cyn cymryd eich amser yn dewis a dethol yr anrheg berffaith?