Cylchdaith Tudweiliog

walking

Mae'r daith hon yn mynd â ni ar hyd ben rallt gyda golygfeydd gwych o fywyd môr a'r glannau, drwy diroedd amaethyddol pen draw'r penrhyn ac ar hyd ambell ffordd wledig. Cawn flas o fywyd porthladdoedd bach y glannau hyn a chyfle i weld eglwys hynafol arbennig ar Lwybr y Pererinion ac sy'n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE).

Pellter: 5.0 km / 3.2 milltir
Amcan amser: 2.5 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer Map 253
Parcio: Porth Ysgaden, 10-15 gofod, LL53 8NB.

Cylchdaith Tudweiliog