Taith gerdded i Raeadr Aber (a elwir hefyd yn Rhaeadr Fawr) drwy Goedydd Aber gyda golygfeydd o fynyddoedd y Carneddau, ac yna’n ôl drwy dir uwch ar ochr orllewinol y dyffryn lle ceir golygfeydd panoramig o Ynys Môn a’r Fenai. Mae mannau o ddiddordeb yn cynnwys olion archeolegol a chysylltiadau â llywodraethwyr olaf Gwynedd, oedd â’u llys yn Abergwyngregyn yn y drydedd ganrif ar ddeg.
Pellter: 6.5km / 4.0 milltir
Amcan amser: 3 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer OL17 Snowdon & Conwy Valley
Parcio: Maes parcio Rhaeadr Aber.
Hysbysir ymwelwyr mai lle cyfyngedig sydd ar gael i barcio ar ddechrau’r llwybr 1.2 milltir at y Rhaeadr Fawr ac mai ond lle i tua 30 o geir sydd yn y ddau faes parcio bychan. Mae cost o £5 i barcio yn y meysydd parcio yma.
Er mwyn cyrraedd y meysydd parcio mae’n rhaid gyrru ar ffordd gul untrac drwy bentref Abergwyngregyn sydd yn achosi tagfeydd drwg ac oedi hir ar ddyddiau prysur.
Mae maes parcio arall am ddim ar gael cyn cyrraedd y pentref gan ychwanegu tua 30 munud at y daith i’r Rhaeadr. Mae’r meysydd parcio sydd yn y rhan uchaf yn llenwi’n sydyn a chynghorir ymwelwyr yn gryf i osgoi gyrru drwy’r pentref.