Mae'r daith hon yn cynnwys pentref glan môr tlws a Fictorianaidd, coedwig sy'n warchodfa natur, golygfeydd ysblennydd o Fae Ceredigion, pentref hanesyddol Tremadog a'i adeiladau Sioraidd, a thref borthladd brysur Porthmadog, gyda'i reilffyrdd bach a'r Cob enwog i groesi'r foryd.
Pellter: 10.0 km / 6.3 milltir
Amcan amser: 3 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer Map 254
Parcio: Maes Parcio Borth-y-Gest, Rhes Yr Eiddew, Borth Y Gest LL49 9TS (what3words)