Cylchdaith Llithfaen

walking

Mae’n bosib fod y daith hon yn cynnig un o’r golygfeydd gorau yn Llŷn, yn ogystal â gweddillion bryngaer bwysig sy’n dal i fod mewn cyflwr da iawn, sef Tre’r Ceiri. I gwblhau’r daith, byddwch yn cerdded drwy ddyffryn hyfryd a phentref chwarela oedd ar un adeg yn anghyfannedd ond sydd bellach yn Ganolfan Iaith a Threftadaeth Genedlaethol a chaffi sy’n edrych dros y môr a rhan o lwybr yr arfordir. Mae rhan arfordirol y daith o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Llŷn.

Pellter: 13.0 km / 8 milltir
Amcan amser: 4 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer Map: 254 Lleyn Peninsula East
Parcio: Maes parcio Yr Eifl

Llithfaen Circular Walk
Cylchdaith Llithfaen