Pentref bach llawn cymeriad ar lannau afon Dwyfor ydi Llanystumdwy a dyna fan cychwyn y daith hon sy'n mynd â ni drwy dir amaethyddol at aber Dwyfor a'i olygfeydd panoramig o Fae Tremadog a'i fynyddoedd. Wrth ddychwelyd, cawn olwg ar ran uchaf y pentref a'i dai diddorol a gwerthfawrogi cysylltiad y lle gyda'r gwleidydd David Lloyd George.
Pellter: 5.0 km / 3 milltir
Amcan amser: 1.5 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer Map 254
Parcio: Maes parcio Llanystumdwy