Cylchdaith Clynnog/Trefor

walking

Mae’r gylchdaith hir hon yn cychwyn yn hen bentref chwarelyddol Trefor ar arfordir gogleddol Llŷn ac yn mynd ymlaen i Glynnog Fawr, arhosfan pwysig i bererinion yr Oesoedd Canol ar y daith i Ynys Enlli. Yna, mae’r daith yn cylchu bryniau uchel mawreddog Bwlch Mawr, Gyrn Goch a Gyrn Ddu, gan ddilyn godre’r copaon. Mae’r golygfeydd a gewch werth pob ymdrech gan y byddwch yn gweld ymhell ar draws Llŷn a thu hwnt.

Pellter: 15.0 km / 9.3 milltir
Amcan amser: 5 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer 253: Lleyn Peninsula East
Parcio: Ger y pier

Map Cylchdaith Clynnog a Trefor