Cylchdaith Bangor

walking

Taith fer yn ninas brifysgol Bangor gyda golygfeydd eang o Ynys Môn ac Eryri. Mae’r daith wedi’i lleoli yn y man agored a elwir yn Wersyll Rhufeinig ym Mangor Uchaf, yn edrych dros y Fenai. Mae’r prysgdir agored a’r coetir cymysg yn hafan i fywyd gwyllt. Taith eithaf byr yw hon, ond mae’n cynnig encil dawel a thoreth o olygfeydd

Pellter: 2.0 km / 1.4 milltir
Amcan amser: 1 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer OL17 Snowdon & Conwy Valley
Parcio: Nifer ar gael ym Mangor