Cylchdaith Abermaw

walking

Mae cylchdaith Abermaw yn cynnig golygfeydd eang o’r tirwedd syfrdanol ar hyd aber Mawddach, yn ogystal â phenrhyn Llŷn yn y pellter. Mae’n dringo i fyny y tu ôl i’r dref drwy Ddinas Oleu ac at lwybr sathredig y Panorama, gan ddychwelyd ar draws tir fferm hyfryd a dod i lawr drwy goetir i’r dref. Gellir ymestyn y daith i fyny tuag at Llanaber ymhellach draw ar yr arfordir, gan ddychwelyd i Abermaw ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.

Pellter: 9.0 km / 5.6 milltir
Amcan amser: 3.5 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer OL18
Parcio: Talu ac Arddangos ar Rhodfa'r Môr, ac ar hyd glan y môr. Mae digon o leoedd parcio hefyd yn y dref, LL42 1NF.

Barmouth Circular Walk
Cylchdaith Abermaw