Mae'r gylchdaith hon yn cynnwys llwybr ar hyd yr arfordir sy'n edrych draw dros Draeth Lafan am Fôn ac yna'n dringo llechweddau Moel Wnion ar droed mynyddoedd y Carneddau. Mae sawl rhywogaeth o Rhydwyr i'w gweld ar hyd y glannau, a golygfeydd panoramig ysblennydd o Afon Menai a'r ynys o rannau uwch ar y daith. Dyma daith werth chweil o safbwynt diddordeb naturiaethol a hanesyddol.
Pellter: 10.0 km / 6.3 milltir
Amcan amser: 4 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer OL17 Snowdon & Conwy Valley
Parcio: Maes Parcio Rhaeadr Aber.
Hysbysir ymwelwyr mai lle cyfyngedig sydd ar gael i barcio ar ddechrau’r llwybr 1.2 milltir at y Rhaeadr Fawr ac mai ond lle i tua 30 o geir sydd yn y ddau faes parcio bychan. Mae cost o £5 i barcio yn y meysydd parcio yma.
Er mwyn cyrraedd y meysydd parcio mae’n rhaid gyrru ar ffordd gul untrac drwy bentref Abergwyngregyn sydd yn achosi tagfeydd drwg ac oedi hir ar ddyddiau prysur.
Mae maes parcio arall am ddim ar gael cyn cyrraedd y pentref gan ychwanegu tua 30 munud at y daith i’r Rhaeadr. Mae’r meysydd parcio sydd yn y rhan uchaf yn llenwi’n sydyn a chynghorir ymwelwyr yn gryf i osgoi gyrru drwy’r pentref.