Cylchdaith Aberdaron

walking

Mae holl amrywiaeth Llŷn a'i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) wedi'i gynnwys yn y daith hon. Ceir yma lwybrau arfordirol - gogledd a de - y penrhyn; dringfa raddol ar hyd llethrau Mynydd Anelog sy'n cynnig golygfeydd gwych a phanoramig, cyn dychwelyd drwy gaeau amaethyddol ac ar hyd cwm bychan Afon Daron.

Pellter: 15.0 km / 9.3 milltir
Amcan amser: 5 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer Map 253.
Parcio:  Maes parcio Aberdaron, 80 gofod; hbyrddau gwybodaeth (tâl os nad yn aelodau o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol), LL53 8BE. (what3words - https://w3w.co/removing.braced.strapping)
Cludiant Cyhoeddus: Bws Gwynedd a fflecsi Pen Llŷn o 1 Ebrill, 2023 (Gwener - Llun)

Map Cylchdaith Aberdaron

Mwy o gylchdeithiau.