Crwydro Eryri a Phen Llŷn

O gopaon godidog a thraethau hirfelyn, i adeiladau hanesyddol a digwyddiadau bywiog, mae Pen Llŷn ac Eryri yn gyforiog o leoliadau ac atyniadau syfrdanol. Felly os ydych chi’n chwilio am wyliau, am ddigwyddiad neu ymweliad dydd, fan hyn yw’r lle i ddod. 

Mae’n bur debygol eich bod yn edrych ymlaen at weld Eryri yng ngolau dydd, ond wyddoch chi fod Eryri yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol? Mae hyn yn golygu bod Eryri ymysg un o’r llefydd sydd â’r lleiaf o lygredd golau ar y ddaear, ac felly’n lle perffaith i wylio’r sêr. Ewch ati i ddarganfod mwy am leoliadau da ledled yr ardal i weld sêr, a sut i baratoi’n drylwyr at eich antur.

Os ydych chi’n penderfynu lapio a mynd allan am dro’r tymor hwn, beth am ymweld â thafarn gymunedol i dorri syched ar ddiwedd y daith?  Eryri ydy cadarnle diwylliant y ‘dafarn gymunedol’; canolfannau sy’n rhoi curiad calon i’w cymdeithas, a drych i ddiwylliant unigryw eu bro. Mae digon o ddewis o’r rhain ledled Eryri a Phen Llŷn; llefydd rhagorol am gwrw, am gynhaliaeth, ac am groeso gwresog heb ei ail.

Waeth beth yw’r tywydd, does dim esgus i fod yn segur yma dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf. O drampolinio a golffio dan-ddaear, i chwarae dan-do neu deithio ar y trên, boed chi’n chwilio am wyliau hamddenol neu ddyddiau llawn dop i ddiddanu’r teulu, mae digon o ddewis yn Eryri trwy’r tymor.

Beth am gael blas ar ddiwylliant yr ardal? O gerddoriaeth fyw i amgueddfeydd treftadaeth, ffeiriau crefft i berfformiadau theatrig - yn Eryri a Phen Llŷn gellir darganfod ein diwylliant byrlymus ar ei orau.

Mae’n ddigon posib mai hanesion yr ardal sy’n eich denu yma. Gyda chynifer o straeon a chwedlau wedi eu lleoli ar hyd a lled yr ardal, mae cyfleoedd di-rif yma i gerdded yn ôl troed cewri, neu ddilyn llwybr y tylwyth teg. Mae cestyll hynafol hefyd yn aros amdanoch yn Eryri, o Gastell Caernarfon i Gastell Conwy, Castell y Bere a Chastell Harlech, felly camwch dros y trothwy er mwyn profi’r oesoedd a fu.

Tra bod nifer o atyniadau adnabyddus yn denu gan gynnwys Yr Wyddfa wrth gwrs, mae Eryri hefyd yn llawn dop o lecynnau tawelach sydd yr un mor ddifyr. Beth am gerdded llwybr Craig y Fron yn y Bala gyda’r teulu? Fe gewch olygfeydd o’r Bala ei hun ac o hen chwarel, cyn cael cyfle i edmygu’r cadwyni o fynyddoedd o’ch cwmpas. Neu beth am ymweld â Bangor am y dydd? Gallwch grwydro ar hyd y pier cyn torri syched a gwledda yn lleol.

Sôn am fwyd a diod, mae’n ddigon posib mai cynnyrch eithriadol yr ardal sy’n apelio. Gyda chynifer o fwytai, caffis, siopau a chynhyrchwyr bwyd arobryn yn yr ardal, does dim esgus dros fynd adra’n llwglyd nac yn waglaw. Draw yn Harlech mae siop Y Groser yn hudo cwsmeriaid gydag arogl diguro eu bara ffres. Os am hufen iâ lleol mae digonedd o ddewis rhwng Glaslyn ym Meddgelert, Glasu ym Mhwllheli, neu’r enwog Cadwaladers yng Nghricieth, Porthmadog a Betws-y-Coed. A chithau ar eich gwyliau ger y môr, efallai mai bwyd môr sy’n dod a dŵr i’ch dannedd, felly Blas y Môr ym Mhorthmadog yw’r lle i chi. Mae digonedd o ddewis, felly estynnwch eich basged! 

Y cynhwysyn arall sy’n gwneud gwyliau yn arbennig a chofiadwy yw cael profi’r diwylliant lleol, ac heb os mae toreth o gyfleodd i wneud hyn yn Eryri a Phen Llŷn ar hyd y flwyddyn. O Ŵyl Fwyd a Chrefft Glynllifon, i gyngherddau a sioeau mewn canolfannau ar hyd yr ardal, a’r gwyliau dirifedi sy’n cael eu cynnal trwy’r haf. Gydag ychydig o ymchwil, gallwch ddarganfod diddannwch heb ei ail yma.

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU 200