CMC Adventure
Mae CMC Adventure yn ganolfan gweithgareddau awyr agored wedi'i leoli yn Harbwr Pensarn, ac o fewn pellter cerdded i'r traeth a phentref Llanbedr. Mae'r ganolfan ar lan y dŵr, gan alluogi gweithgareddau chwaraeon dŵr i ddigwydd ar y safle yn erbyn cefndir syfrdanol mynyddoedd y Rhinogydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.