Clwb Hwylio De Sir Gaernarfon
Lleolir Clwb Hwylio De Sir Gaernarfon ar Ben Benar with ochr traeth Porth Fawr,Abersoch. O’r fan honno ceir golygfeydd syfrdanol o Ynysoedd St.Tudwal,Bae Ceredigion a mynyddoedd Eryri yn enwedig o far y Clwb ac o fwyty enwog y Cove.O safbwynt hwylwyr mae’r mor oddi yno’n lan hen ddim traffic masnachol na llanw cryfion.Mae’r traethau’n braf ar mor yn glir a chynnes i’r teuluoedd.Ar ddyddiau tawel gellir gweld y dolffiniad yn chwarae’n y dwr bas ger y glannau.
Mae nifer o siopau amrywiol , tafarnau a bwytai ym mhentref Abersoch ac atyniadau eraill hyd a lled Penrhyn Llyn.
Sylfaenwyd y Clwb yn 1924 ac erbyn hyn gyda dros 900 o aelodau’n mwynhau hwylio cychod bach a mawr o’r Pasg hyd fis Hydref.Mae dwy fflyd o dingis amrywiol a dwy fflyd o gychod mawr yn rasio a mordeithio. Mae hefyd fflyd o Pandoras,Dragons a Squibs.Fe gynhelir sawl cystadleuaeth hwylio cenedlaethol a rhyngwladol yn y Clwb ar wahan i’r rasio lleol e.e. Wythnos Dingis Abersoch ( wythnos olaf mis Gorffennaf ),Wythnos Mirror Abersoch (trydydd wythnos ym mis Awst), Wythnos Cychod Gefn (wythnos olaf Awst) - ymunwch a ni am hwylio cystadleuol ac am hwyl a chymdeithasu’n y Clwb drachefn!
Mwynderau
- WiFi ar gael
- Caffi/Bwyty ar y safle