Chwech o'r Goreuon: Trefi Hanesyddol ar lannau Eryri y Mae'n Rhaid i Chi Ymweld â Nhw
Cestyll neu forlin? Nid oes raid i chi ddewis ar lannau Eryri. Mae ein trefi a'n cyrchfannau croesawgar ger y dŵr yn cymysgu golygfeydd trawiadol gyda threftadaeth gref - cyfuniad heb ei ail sy'n golygu y byddwch yn siŵr o ddod o hyd i bethau newydd i'w profi a'u mwynhau, hyd yn oed mewn lleoliadau cyfarwydd a'r rhai sy'n agosach at adref.
Rydym wedi casglu ychydig o'n hoff leoliadau ger y môr isod, gan dynnu sylw at eu hasedau hanesyddol a diwylliannol mwyaf trawiadol - yn cynnwys rhai o'r gemau o gasgliadau Cadw a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym hefyd wedi amlinellu ychydig o droeon bach arfordirol rhwydd a llefydd i gael bwyd a diod blasus - perffaith i gael ymlacio ar ôl diwrnod o grwydro.
Mae digon o lefydd gwych i aros hefyd. Edrychwch ar ein tudalennau llety i bori drwy ddewis o westai, llety Gwely a Brecwast ac eiddo hunan-arlwyo sy'n berffaith ar gyfer cyplau a phartïon o bob maint.
Ydych chi'n meddwl eich bod yn adnabod Eryri yn barod? Meddyliwch eto - fe ddangoswn ni fwy i chi.
Bangor
Dinas hynaf Cymru ar lannau'r Fenai.
Beth yw'r stori?
Wedi'i chlymu ar hyd glannau'r Fenai, mae Bangor brysur yn ddinas prifysgol fyrlymus gyda hanes hirfaith. Un o'i safleoedd mwyaf hynafol (a ffynhonnell ei statws dinesig) yw Cadeirlan Deiniol Sant. Wedi'i sefydlu yn 525OC, dyma'r gadeirlan hynaf ym Mhrydain - sydd, yn ei thro, yn gwneud Bangor yn ddinas hynaf Cymru. Mae rhan fwyaf o'r gadeirlan bresennol yn dyddio o ddechrau'r 12fed ganrif, er y bydd y rhai craff yn eich plith yn sylwi ar ychwanegiadau hwyrach, gan gynnwys y tŵr cloch o'r 16eg ganrif.
Mae'r gadeirlan hefyd wedi'i chysylltu'n agos â Storiel, amgueddfa ac oriel liwgar Bangor. Fe'i lleolir yn hen Balas yr Esgob, preswylfa arweinwyr sanctaidd y dref o ddiwedd y cyfnod canoloesol tan ganol yr 20fed ganrif. Bellach wedi'i hadfywio fel un o'r lleoliadau celfyddydol mwyaf cyffrous yng ngogledd Cymru, mae'n gartref i archif o dros 10,000 o eitemau o gasgliad Prifysgol Bangor i roi lle i raglen o arddangosfeydd yn cynnwys tecstilau, cerameg, dodrefn a chelf.
Ceir hefyd ffotograffau, dogfennau ac arteffactau sy'n bwrw goleuni ar hanes cymdeithasol cyfoethog yr ardal, gan gynnwys rôl Dyffryn Ogwen gerllaw yn y diwydiant llechi. Mae'n un o straeon mwyaf arwyddocaol y Chwyldro Diwydiannol - a gydnabuwyd gan ddynodiad Tirwedd Llechi Gogledd Cymru fel un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO mwyaf newydd y DU.
Wedi'i sefydlu ym 1885, mae adeilad Prifysgol Bangor yn gymysgfa o bensaernïaeth canol y 19eg ganrif a nodweddion mwy cyfoes. Efallai mai'r mwyaf trawiadol o'i hadeiladau mwy newydd yw Pontio, canolfan gelfyddydau a diwylliannol unigryw sy'n arddangos rhaglen fyd-eang o gerddoriaeth, theatr, dawns a pherfformio.
Mae'n leoliad â ffocws cymunedol sydd ar agor i bawb, lle gallwch weld popeth o ddangosiadau ffilm ac arddangosiadau sgrialu i sioeau syrcas a pherfformiadau stand-yp gan gomediwyr enwog a phoblogaidd ar daith. Ceir arlwy ar gyfer y rhai sy'n hoffi cerddoriaeth hefyd - dewiswch o werin, pop, caneuon sioeau cerdd a datganiadau gan gerddorfeydd ar daith.
Ar droed
Ewch am dro allan i’r môr drwy gerdded ar hyd Pier Garth, pier hanesyddol Bangor o'r 19eg ganrif. Ym ymestyn am 1,541 troedfedd / 470m i'r Fenai, mae gan yr hen nodwedd cyfareddol hwn olygfeydd trawiadol o'r môr a throsodd i Ynys Môn. Os hoffech chi fynd ychydig yn bellach, parhewch i gerdded tua'r de-orllewin ar hyd Llwybr Arfordir Cymru am ragor o olygfeydd gwych o'r Fenai.
Blasau lleol
Ewch i Wood Fired Shack am y pitsa perffaith mewn lleoliad ymlaciol yn edrych dros y gadeirlan. Mae'r coctels yn eithaf da hefyd.
Abermaw
Harbwr hanesyddol, traeth diderfyn a man geni'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Beth yw'r stori?
Wedi'i leoli mewn safle ysblennydd yng ngheg aber afon Mawddach, mae Abermaw prydferth yn gyrchfan glan môr tywodlyd gyda threftadaeth gref - adlewyrchiad o'i orffennol fel porthladd prysur. Fe gewch chi weld eglwysi a chapeli mawr, bythynnod bychan pysgotwyr yn strydoedd troellog a chul yr hen dref ac adeiladau anarferol megis Tŷ Crwn, strwythur conigol ar lan y môr a ddefnyddiwyd i garcharu codwyr twrw afreolus yn y 19eg ganrif.
Yn codi uwchlaw'r cyfan mae ehangder garw clogwyn a rhostir Dinas Oleu, gogoniant Abermaw. Lleoliad caer Rufeinig ar un adeg, mae bellach yn enwog fel man geni'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cyflwynwyd Dinas Oleu fel rhodd ac eiddo cyntaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan y tirfeddiannwr a'r ddyngarwraig lleol, Fanny Talbot ym 1895, gyda'r ddealltwriaeth na fyddai ei natur wyllt yn cael ei difwyno. Bydd crwydro ei rwydwaith o lwybrau yn siŵr o dalu ar ei ganfed, wrth i chi weld golygfeydd trawiadol dros y dref a dyfroedd glas Bae Ceredigion.
Am ragor o wybodaeth am hanes Abermaw, dilynwch y llwybr treftadaeth. Drwy grwydro o gwmpas safleoedd mwyaf nodedig y dref, ceir syrpréis ym mhob cornel.
Ar droed
Os ydych chi awydd rhywbeth gwahanol wrth fynd am dro arlan y môr, cerddwch o'r harbwr ac allan ar y bont reilffordd Fictoraidd sy'n ymestyn o amgylch aber afon Mawddach. Yn ogystal â threnau, mae'r bont yn cludo llwybr beicio Mawddach ac yn darparu golygfeydd eang dros y dref, yr aber a'r môr.
Am dro bach sydyn, ewch i ganol y bont cyn dychwelyd yr un ffordd. Os ydych eisiau taith hirach, ewch ymlaen i Fairbourne ar yr ochr arall cyn dal y fferi yn ôl i Abermaw.
Blasau lleol
Pan fydd yn amser bwyd, cyfunwch hanes gyda lletygarwch yn The Last Inn. Wedi'i leoli mewn hen siop crydd o'r 15fed ganrif, dyma un o'r adeiladau hynaf sydd ar ôl yn Abermaw. Ceir cyfoeth o nodweddion gwreiddiol llawn awyrgylch i'w mwynhau, law yn llaw â bwydlen draddodiadol tŷ tafarn gyda chynnyrch lleol.
Fel arall, ewch am drip i Davy Jones Locker sy'n edrych dros yr harbwr am goffi, prydau ysgafn a phrydau mwy.
Caernarfon
Castell canoloesol grymus a milenia o hanes Rhufeinig.
Beth yw'r stori?
Mae lleoliad strategol Caernarfon ym man cyfarfod afon Seiont a'r Fenai wedi cael ei werthfawrogi gan arweinwyr milwrol am filenia. Y Rhufeiniaid oedd y cyntaf i fachu ar y cyfle, gan adeiladu caer Segontium yma yn 77OC - dafliad carreg oddi wrth canol y dref fodern heddiw.
Ar un adeg, roedd yn gartref i 1,000 o filwyr (yn ogystal â'r isadeiledd a dyfodd i'w cefnogi), dyma un o'r aneddiadau Rhufeinig sydd wedi goroesi hiraf ym Mhrydain, oedd yn dal i gael ei ddefnyddio am oddeutu tair canrif. Heddiw, gallwch fynd am dro difyr i hen hanes drwy archwilio gweddillion atgofus strwythurau, sy'n cynnwys cysegrfa, basilica ac ymolchdy.
Yn ddiweddarach, fe wnaeth Caernarfon ddal sylw llygaid Brenin Lloegr, Edward II, a'i gwnaeth yn leoliad ar gyfer ei gastell Cymreig mwyaf trawiadol. Mae ei dyrau ymddyrchafol yr un mor wefreiddiol heddiw ag yr oeddent pan gafodd y gaer rymus hon ei hadeiladu dros 700 o flynyddoedd yn ôl, testament i ddyfeisgarwch a dawn ei hadeiladwyr canoloesol.
Ewch am dro ar hyd ei waliau i fwynhau golygfeydd 360-gradd trawiadol dros y Fenai ac yn ôl i gopaon Eryri a dotio ar bensaernïaeth castell a adeiladwyd fel palas brenhinol yn ogystal â chadarnle anhreiddiadwy. Mae'n hawdd deall sut mae'r gaer arbennig hon yn Safle Treftadaeth y Byd.
Mae’r castell hefyd yn gartref i hanes milwrol mwy diweddar. Wedi'i leoli yn ei ddau dŵr y mae Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, sy'n adrodd hanes 300 o flynyddoedd catrawd hynaf Cymru.
Ar droed
Ewch am dro tua'r gogledd o'r castell ar hyd llwybr ar lan y dŵr sy'n mynd heibio hen waliau'r dref a’r môr. Cyn cyrraedd marina bywiog a phrysur Caernarfon, byddwch yn mynd heibio'r Tŵr Crogi, lle'r oedd carcharorion yn cael eu dienyddio yn yr 19eg ganrif. Mae hefyd yn werth mynd tua'r dwyrain o'r castell i gael golwg ar Gei Llechi, yr hen gei llechi sydd wedi cael ei drawsnewid gan brosiect adfywio £5.9 miliwn.
Blasau lleol
Yn swatio o fewn waliau tref Caernarfon, mae Gwesty'r Black Boy o'r 16eg ganrif yn un o'r gwestai hynaf yng ngogledd Cymru. Dyma le llawn awyrgylch i gael tamaid i'w fwyta, gyda bwydlen eang o fwyd cartref yn tarddu o'r pridd i'r plât gan gynhyrchwyr lleol. Am brydau ychydig yn wahanol sydd wedi cael eu gwneud o'n cynnyrch rhanbarthol, ewch i fwyty celfydd Sheeps and Leeks, sy'n gweini bwydlenni blasus wedi'u dylunio'n gywrain ac wedi'u gwneud â'r cynhwysion tymhorol gorau.
Cricieth
Golygfeydd trawiadol o'r môr a chastell godidog.
Beth yw'r stori?
Yn swatio ar lannau deheuol Pen Llŷn, mae Cricieth yn gyrchfan arfordirol fechan gyda phersonoliaeth fawr. Mae rhesi o dai tlws yn disgyn tuag at lannau ysgubol, wedi'i rannu gan frigiad creigiog sy'n rhoi sylfaen i gastell trawiadol 13eg ganrif y dref (mwy am hynny yn nes ymlaen). Mae traethau tywodlyd ar naill ochr y rhwystr naturiol hwn yn darparu golygfeydd trawiadol i Fae Ceredigion ac ar hyd arfordir Eryri tuag at Harlech.
Mae gorsaf fad achub yr RNLI ar ben dwyreiniol glan y môr. Mae wedi bod yn gwarchod y moroedd yma ers canol yr 19eg ganrif, mewn cyfnod lle mae ei wirfoddolwyr wedi achub bywydau di-ri ac ennill nifer o wobrau am eu dewrder. Efallai mai'r ymgyrch achub enwocaf oedd ym 1845 lle enillodd pedwar o wŷr bad achub Cricieth Fedalau Arian, pan ddrylliodd llong Americanaidd y Glendower ym Mhorthmadog.
Canolbwynt Cricieth yw ei gastell, a saif yn y lleoliad gorau ar lan y môr ar bentir garw yn edrych dros y dref a'r môr. Er na all gystadlu o ran maint gyda'i gymdogion yn Harlech a Chaernarfon, mae'n gyfartal o ran lleoliad ac awyrgylch - gofynnwch i JMW Turner er enghraifft, a gafodd ei ysbrydoli i'w beintio ar ddiwedd yr 19eg ganrif.
Mae hefyd yn nodedig fel un o'r ychydig gestyll Cymreig a adeiladwyd a dinistriwyd gan lywodraethwyr cynhenid. Wedi'i adeiladu mewn dau gam gan y tywysogion canoloesol, Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) a'i ŵyr Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf), fe'i meddiannwyd gan oresgynwyr Seisnig yn ddiweddarach. Ym 1404, ymosododd lluoedd Tywysog Cymru, Owain Glyndŵr ar y gaer er mwyn gyrru'r Saeson ymaith, gan ei adael yn adfail llwydaidd.
Ar droed
O'r castell, ewch ar Lwybr Arfordir Cymru ar hyd lan y môr heibio'r traeth gorllewinol ac ymlaen i aber Afon Dwyfor. I fynd am dro hirach, gallwch ddilyn yr afon cyn troi tua’r tir i Lanystumdwy, lle gwelwch gartref genedigol a bedd y cyn Brif Weinidog David Lloyd George - yn ogystal ag amgueddfa wedi'i gysegru i'r gŵr enwog.
Blasau lleol
Wedi'i leoli mewn adeilad Art Deco godidog ar lan y môr, Dylan's yw'r lle perffaith am bryd cofiadwy. Mae'r bwyd yr un mor wefreiddiol, gyda bwydlen o brydau blasus yn tarddu o dir a moroedd gogledd Cymru - trïwch y cregyn gleision, pryd arbennig y bwyty. Fel arall, mwynhewch de prynhawn yn Tir a Môr, caffi cysurus sydd ond dafliad carreg o’r traeth.
Harlech
Twyni tywod symudol a chaer ganoloesol gyda'r gorau yn y byd.
Beth yw'r stori?
Yn edrych dros Fae Ceredigion a Phen Llŷn o fryn serth nid nepell o'r môr, mae ymdeimlad gwahanol gan Harlech i sawl cymuned arfordirol Eryri. Roedd y dref wedi'i lleoli ar ymyl y dŵr ar ddechrau'r mileniwm diwethaf ond mae'r canrifoedd dilynol wedi gweld y môr yn cilio tu hwnt i arfodau o dwyni a glaswelltir.
Os ydych am weld y môr yn agos heddiw, ewch i Warchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech, sy'n hawdd ei gyrraedd o faes parcio Min-y-Don, dafliad carreg o ganol y dref. Yn swatio tu ôl i draeth ysgubol Harlech, dyma un o'r systemau twyni pwysicaf yn y DU ac mae'n gynefin i nifer enfawr o blanhigion ac anifeiliaid prin. Mae hefyd yn leoliad gwych am olygfeydd o nodwedd enwocaf Harlech - ei gastell 13eg ganrif eiconig, a saif yn uchel ar glogwyn creigiog.
Mae waliau'r Safle Treftadaeth y Byd UNESCO hwn yn ymddangos fel petaent yn llamu o'r graig lle saif, rhwystr dychrynllyd iawn i unrhyw ymosodwr posib. Diolch byth, mae mynediad yn weddol rhwydd heddiw gyda phont grog drawiadol o ganolfan ymwelwyr fodern y castell yn darparu llwybr cyflym dros y ffos. Y tu mewn, mae strwythur waliau o fewn waliau'r castell wedi'u cadw'n berffaith.
Ewch i fyny i'r murfylchau am olygfeydd trawiadol dros y môr a chopaon Eryri, neu ewch i lawr y 108 gris i'r fflodiard - man cyflenwi hanfodol sy'n ein hatgoffa o'r amser pan oedd y tonnau yn gorgyffwrdd â Chastell Harlech.
Ar droed
Archwiliwch chwedlau hudol gorffennol Harlech ar daith gerdded Stori Meirion o gwmpas y dref. Gan gychwyn o'r maes chwarae yng nghysgod y castell, mae'r daith 2 filltir/3.2km yn mynd â chi ar daith o brif leoliadau'r dref - a gysylltir gyda phump cadair adrodd storïau wedi'u cerfio'n gywrain (gellir ei dorri yn dameidiau llai os nad oes gennych amser i gerdded y llwybr cyfan).
Mae Harlech yn golygu 'ar lethr' neu 'llethr hardd'. Dyma ddweud cynnil. Ar raddiant myglyd o 37.45%, Ffordd Pen Llech ar ochr y castell yw un o'r strydoedd serthaf yn y byd. Byddwch bron â syrthio ar y ffordd i lawr ac yn teimlo fel mynyddwr ar y ffordd yn ôl i fyny.
Blasau lleol
Mwynhewch bryd o fwyd yn Castle Cottage, dafliad carreg o gaer eiconig Harlech. Mae wedi ymddangos yng nghanllawiau 'Good Food' ers degawdau, yn gweini prydau gwych o darddiad lleol gyda dylanwad Thai yn achlysurol.
Porthmadog
Canolfan reilffordd dreftadaeth gyda gogwydd morwrol.
Beth yw'r stori?
Efallai ei fod yn anodd credu heddiw, ond roedd Porthmadog boblogaidd ar un adeg yn byrlymu o ddiwydiant. Golygai ei lleoliad yn aber Glaslyn ei bod yn dref harbwr ffyniannus yn ystod y 19eg ganrif, yn gweithredu fel canolfan drafnidiaeth i symiau mawr o lechi a gloddiwyd o chwareli Blaenau Ffestiniog.
Wrth dreulio rhywfaint o amser yn y dref, byddwch yn siŵr o glywed sŵn pwffian injans stêm mewn dim o dro gan fod tair rheilffordd hanesyddol wych ym Mhorthmadog. Gan gychwyn o'r orsaf yn yr harbwr, mae Rheilffyrdd Ucheldir Cymru a Rheilffyrdd Ffestiniog wedi newid o gludo llechi i gludo pobl sy'n dotio ar y golygfeydd.
Rheilffordd Ffestiniog yw'r rheilffordd dreftadaeth hynaf yn y byd, sy'n cysylltu Porthmadog i Flaenau Ffestiniog ar hyd trac troellog 13½ milltir/22km. Wrth i chi ddringo tuag at eich cyrchfan, byddwch yn mwynhau golygfeydd godidog o dirwedd llechi Eryri, un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO mwyaf newydd y DU.
O'r hynaf i'r hiraf. Mae trac 25 milltir/40km Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ei wneud yr hiraf yn y DU. Mae cerbydau adferedig moethus Pullman hefyd yn gwneud y daith o gwmpas troed yr Wyddfa i Gaernarfon yn un o brofiadau rheilffordd treftadaeth mwyaf cyfforddus y byd.
Yr olaf, a’r lleiaf, o reilffyrdd Porthmadog yw Rheilffordd Ucheldir Cymru , sy'n rhedeg o leoliad agos i orsaf fodern y dref. Mae'r gwasanaeth rheilffordd cul a bychan yn mynd ar daith fer i Ben-y-Mownt ac yn stopio mewn canolfan dreftadaeth ddifyr ar y ffordd. Os ydych yn lwcus, byddwch yn teithio yn y cerbyd adferedig a enwyd ar ôl y Prif Weinidog, William Gladstone, a deithiodd ynddo ym 1892.
Gallwch hefyd archwilio ochr forwrol gorffennol diwydiannol Porthmadog yn yr Amgueddfa Forwrol. Mewn hen sied lechi ar yr harbwr, mae'n gartref i gasgliadau sy'n adrodd straeon adeiladwyr llongau, pysgotwyr a morwyr oedd yn gwneud bywoliaeth yn y porthladd prysur hwn, oedd â chysylltiadau gyda'r byd ar un adeg.
Ar droed
Ewch am dro o orsaf Rheilffordd Ffestiniog i'r Cob, amddiffynfa llifogydd/pont reilffordd enwocaf Porthmadog sy'n gwahanu'r morfa heli a'r tir ffermio ar un ochr oddi wrth y môr yr ochr arall. Yn ystod yr haf, mae blodau gwyllt lliwgar yn blodeuo ar lannau'r Cob, tra bod y golygfeydd tua’r tir at gopaon Eryri yn syfrdanol drwy gydol y flwyddyn. I fynd am dro hirach, ewch ymlaen o'r Cob i bentref Eidalaidd unigryw Portmeirion, sy'n swatio ar lannau aber Dwyryd.
Blasau lleol
Mae Yr Hen Fecws groesawgar yn cyfuno bwydlen o brydau tymhorol wedi'u paratoi'n hyfryd gyda rhestr win helaeth. Os ydych yn ffafrio cwrw, trïwch yr Australia, tafarn gysurus lle gallwch drïo cwrw o Fragdy'r Mws Piws ym Mhorthmadog ynghyd â dewis helaeth o brydau cartref blasus.