Yr Wyddfa - Eich Prif Ganllaw ar Gyfer y 6 Llwybr i'r Copa

Y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr. Sut bynnag ffordd yr ydych yn adnabod y tirnod enwog hwn, mae'n werth ei gweld. Yn sefyll yn dal dros bentref Llanberis, mae’r Wyddfa yn rhan o deulu glos o gopaon danheddog a gallent gynnig golygfeydd o Eryri, Ynys Môn, Sir Benfro ac Iwerddon. Dewiswch o chwech o lwybrau gwahanol i goncro’r cawr 1085 metr hwn: Llwybr Llanberis, Llwybr Pyg, Llwybr y Mwynwyr, Llwybr Watkin, Llwybr Rhyd-Ddu neu Llwybr Llyn Cwellyn. Isod mae manylion am y llwybrau gwhanol, trafnidiaeth, tywyswyr myndd ac os yn chwilio am lety yna ewch i'n tudalennau Llefydd i Aros. Mae App hefyd ar gael i'w brynu a all eich tywys ar hyd y chwe phrif lwybr.

Nodyn Pwysig:

  • Maes parcio Pen y Pass - Talu ac Arddangos ond bydd rhagarchebu yn ail-gychwyn ar y 23ain o Fawrth, 2024. Os yn llawn ac os ydych yn awyddus i gerdded o Ben-y-Pass bydd rhaid defnyddio Gwasanaeth Parcio a Theitho Sherpa'r Wyddfa sy'n rhedeg o feysydd parcio Nant Peris a Llanberis.

NODYN DIOGELWCH PWYSIG

Darllenwch yr isod cyn mentro ar y mynydd. 

1. Cynlluniwch eich taith yn drylwyr cyn cychwyn gan ddewis taith sy'n addas ar gyfer pob aelod o'ch grŵp. Os dyma'r tro cyntaf i chi gerdded Yr Wyddfa rydym yn awgrymu llwybr Llanberis. Cofiwch mai dim ond hanner y gamp yw cyrraedd y copa felly byddwch yn ofalus wrth ddod i lawr rhag ofn i chi faglu neu syrthio oherwydd blinder.

2. Cadwch at y daith yr ydych wedi ei chynllunio a pheidiwch â dilyn cerddwyr o'ch blaenau - hwyrach eu bod yn dilyn llwybr llawer mwy heriol a pheryglus na chi.

3. Gwisgwch esgidiau cerdded cyfforddus sy’n cynnal y ffêr a dillad addas. Gall y tirwedd fod yn anwastad a’r tywydd yn ansefydlog. Byddwch angen côt a throwsus sy’n eich cadw’n sych a’ch gwarchod rhag y gwynt. Mewn tywydd gaeafol bydd angen dillad ychwanegol megis haen waelodol thermal, siaced gynnes, menig a het.

4. Cariwch sach gefn gyda digon o le ar gyfer bwyd a diod. Gall cerdded fod yn waith caled ac egnïol felly mae’n bwysig cadw lefel egni yn gyson. Yn ystod misoedd yr haf ewch a dŵr ychwanegol â chi a digon o eli haul-does unman i gysgodi rhag yr haul ar lethrau’r mynyddoedd.

5. Ewch â map a chwmpawd gyda chi a gwnewch yn siwr eich bod yn gallu eu defnyddio. Maent yn offer sylfaenol ond pwysig iawn i unrhyw un sy’n cerdded mynydd. Ewch a haen ychwanegol o ddillad â chi gan fod y tymheredd yn gostwng yn gyflym yn yr ucheldiroedd. Rhaid cario tortsh, chwiban, pecyn cymorth cyntaf a ffôn symudol ond cofiwch beidio dibynnu ar ffôn i’ch cael allan o drafferthion gan nad oes sicrwydd o signal ar y mynydd.

6. Edrychwch ar ragolygon y tywydd cyn cychwyn allan ac os yw’r tywydd yn gwaethygu, trowch yn ôl. Gall y tywydd ar y mynydd newid mewn dim amser gyda gwyntoedd cryfion, cymylau isel a tymheredd newidiol yn ei gwneud hi’n amhosib gweld a cherdded. Ymwelwch â gwefan y Swyddfa Dywydd am ragolygon manwl cyn cychwyn. Bydd angen gwirio sefyllfa'r eira ac amodau dan draed yn ystod y gaeaf.

7. Dywedwch wrth berson dibynadwy beth yw eich cynlluniau, pa ffordd yr ydych am fynd a phryd disgwyliwch fod yn ôl fel y gallant alw am gymorth os nad ydych wedi dychwelyd erbyn yr amser hynny. Cofiwch roi gwybod iddyn nhw o unrhyw newid yn eich cynlluniau. 

Mentro'n Gall Cymru

Mae Mentro’n Gall Cymru wedi cael ei ddatblygu fel partneriaeth gan lawer o sefydliadau sydd eisiau i bobl fwynhau awyr agored gwych Cymru yn ddiogel. Maent wedi nodi rhai pethau syml i’w hystyried, i’ch helpu chi i gael diwrnod grêt ac i wneud yn siŵr eich bod chi, ar ddiwedd y dydd, yn teithio adref yn ddiogel, gan edrych ymlaen at eich antur nesaf. #MentranGall

Llwybr Llanberis

Yn wreiddiol, cariwyd twristiaid i fyny’r llwybr hwn ar ferlod a mulod, ac mae’n parhau hyd heddiw i fod yn lwybr ceffyl. (Mae yna gytundeb gwirfoddol gyda beicwyr mynydd i gadw oddi ar y llwybr yn ystod adegau prysuraf y flwyddyn).

Pwysig: Rhaid peidio â cherdded i fyny nac i lawr trac Rheilffordd yr Wyddfa. Nid yn unig mae'n beryglus iawn gyda threnau'n pasio a gwaith cynnal a chadw rheilffyrdd yn cael ei wneud, ond mae hefyd yn tresmasu ar eiddo preifat. Mae'n rhaid i gerddwyr aros ar Lwybr Llanberis sydd wedi ei farcio'n glir.

Pellter: 9 milltir (yno ac yn ôl)
Cyfanswm dringo: 975m (3,198 tr)
Gradd y Llwybr: Anodd/Llafurus
Amser: Tua 6 awr (yno ac yn ôl)
Dechrau a Diwedd: (SH 582589 /LL55 4TY) – Gorsaf reilffordd
Map: Explorer OL17 Arolwg Ordnans
Parcio: Nifer o faesydd parcio yn Llanberis. (SH 582589 / LL55 4TY)
Safle Bws Sherpa: Safle ymgyfnewid Llanberis 

Llanberis Path Map © APCE_SNPA

Llwybr y Mwynwyr 

Yn dilyn agor ffordd Llanberis drwy Fwlch Llanberis yn 1832, adeiladwyd Llwybr y Mwynwyr i gario copr o waith copr Britannia ger Llyn Glaslyn i Ben-y-Pass, lle y cludwyd ef wedyn i Gaernarfon. Er i’r mwyngloddio ddod i ben yn 1916, mae olion y gwaith i’w gweld hyd heddiw ar hyd ochr y llwybr.

Pellter: 8 milltir (yno ac yn ôl)
Cyfanswm dringo: 723m (2,371tr)
Gradd y Llwybr: Anodd/Llafurus
Amser: Tua 6 awr (yno ac yn ôl)
Dechrau a Diwedd: Maes Parcio Pen-y-Pass (SH 647557 / LL55 4NY)
Map: Explorer OL17 Arolwg Ordnans
Parcio: Talu ac Arddangos ond bydd rhagarchebu yn ail-gychwyn ar y 23ain o Fawrth, 2024. Os yw'r maes parcio yn llawn ac yn awyddus i gerdded o Ben-y-Pass gallwch ddefnyddio Gwasanaeth Parcio a Theithio Sherpa'r Wyddfa o Feysydd Parcio a Theithio Nant Peris a Llanberis.
Safle Bws Sherpa: Maes parcio Pen-y-Pass

Llwybr Mwynwyr Miners Path a Pyg Track Map © APCE_SNPA

Llwybr Pyg 

Mae peth ansicrwydd ynghylch tarddiad y gair Pyg. Y gred yw i’r llwybr gael ei enwi ar ôl Hostel Pen y Gwryd gan ddringwyr a oedd yn aros yno. Posibilrwydd arall yw y daw’r enw o’r ffaith bod y llwybr yn croesi Bwlch y Moch (fe’i sillefir yn Pig weithiau yn y Saesneg). Neu ai dyma’r llwybr a ddefnyddiwyd i gludo pyg (tar du) i Waith Copr Britannia yng Nghwm Glaslyn? Mae’r dyfalu’n parhau!!

Pellter: 7 milltir (yno ac yn ôl)
Cyfanswm dringo: 723m (2,371 tr)
Gradd y Llwybr: Anodd/Llafurus
Amser: Tua 6 awr (yno ac yn ôl)
Dechrau a Diwedd: Maes Parcio Pen-y-Pass (SH 647557 / LL55 4NY)
Map: Explorer OL17 Arolwg Ordnans
Parcio: Talu ac Arddangos ond bydd rhagarchebu yn ail-gychwyn ar y 23ain o Fawrth, 2024. Os yw'r maes parcio yn llawn ac yn awyddus i gerdded o Ben-y-Pass gallwch ddefnyddio Gwasanaeth Parcio a Theithio Sherpa'r Wyddfa o Feysydd Parcio a Theithio Nant Peris a Llanberis.
Safle Bws Sherpa: Maes parcio Pen-y-Pass

Llwybr Watkin 

Mae’r llwybr hwn wedi’i enwi ar ôl Syr Edward Watkin, yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol a’r entrepreneur rheilffyrdd. Roedd ganddo dŷ haf ar ddechrau’r llwybr ac ef oedd yn gyfrifol am greu’r llwybr o Chwarel Lechi De’r Wyddfa i gopa’r Wyddfa fel bod ymwelwyr yn gallu cerdded i’r copa yn gyfleus. Agorwyd y llwybr yn swyddogol yn 1892 gan William Gladstone, y Prif Weinidog. Ar graig ger y llwybr sydd bellach wedi’i enwi ar ei ôl - Craig Gladstone - anerchodd dorf o dros 2,000 o bobl.

Mae Llwybr Watkin yn llwybr arbennig o heriol i gopa’r Wyddfa. Dylai cerddwyr sy’n ystyried eu taith gerdded gyntaf i fyny’r Wyddfa  roi cynnig ar un o’r llwybrau eraill.

Pellter: 8 milltir (yno ac yn ôl)
Cyfanswm dringo: 1,015m (3,329 tr)
Gradd y Llwybr: Anodd/Llafurus
Amser: Tua 7 awr (yno ac yn ôl)
Dechrau a Diwedd: Pont Bethania, Nant Gwynant (SH 628507 / LL55 4NL) (ar y drofa o’r A498 am y fferm Hafod y Llan
Map: Explorer OL17 Arolwg Ordnans 
Parcio: Maes Parcio Pont Bethania, Nant Gwynant (SH 628507 / LL55 4NL)
Safle Bws Sherpa: Maes parcio Nant Gwynant

Map Llwybr Watkin

Llwybr Rhyd Ddu 

Arferid galw’r llwybr hwn yn Llwybr Beddgelert gan mai o’r pentref hwnnw yr arferai cerddwyr ddechrau eu taith i’r copa.

Pellter: 7.5 milltir (yno ac yn ôl)
Cyfanswm dringo: 895m (2,936 tr)
Gradd y Llwybr: Anodd/Llafurus
Amser: Tua 6 awr (yno ac yn ôl)
Dechrau a Diwedd: Maes Parcio Rhyd Ddu (SH 571526 / LL54 6TN)
Map: Explorer OL17 Arolwg Ordnans
Parcio: Maes Parcio Rhyd Ddu (SH 571526 / LL54 6TN)
Safle Bws Sherpa: Pen pellaf maes parcio Rhyd Ddu

Rhyd Ddu Path Map © APCE_SNPA

Llwybr Llyn Cwellyn 

Dechreua’r llwybr hwn ger hostel ieuenctid y “Snowdon Ranger” ger Llyn Cwellyn. Roedd John Morton y ‘Snowdon Ranger’ hunanedig yn tywys twristiaid Fictorianaidd ar hyd y llwybr ac fe agorodd dafarn ar safle’r hostel ieuenctid a’i alw’n Snowdon Ranger Inn.

Pellter: 8 milltir (yno ac yn ôl)
Cyfanswm dringo: 936m (3,070 tr)
Gradd y Llwybr: Anodd/Llafurus
Amser: Tua 6 awr (yno ac yn ôl)
Dechrau a Diwedd: Snowdon Ranger YHA,Llyn Cwellyn (SH 564551 / LL54 7YS)
Map: Explorer OL17 Arolwg Ordnans
Parcio: Maes Parcio Llyn Cwellyn (SH 564551 / LL54 7YS) 
Safle Bws Sherpa: Maes parcio Llyn Cwellyn
 

Snowdon Ranger Path Map © APCE_SNPA

Maps © APCE/SNPA

I weld manylion manwl am y llwybrau ewch i wefan Parc Cenedlaethol Eryri.

Llwybrau Cerdded i'r Wyddfa a Gwasanaeth Bws Sherpa

Mae cynllunio eich taith a parcio i gerdded Yr Wyddfa yn bwysig iawn. Gyda dros hanner miliwn o bobl yn ymweld â'r copa bob blwyddyn mae'r meysydd parcio'n gallu bod yn llawn mor fuan a 7 o'r gloch y bore! Mae'r llwybrau llawer distawach yn ystod yr wythnos ac yn gyfle gwych i gerdded gan bod penwythnosau a gwyliau ysgol yn brysur iawn. Mae'r cyfnod o ddiwedd Medi hyd at ddechrau Hydref yn amser gwych i gerdded mynydddoedd Eryri.

Os ydych yn dymuno cerdded llwybrau'r Pyg neu'r Mwynwyr yna rydym yn eich annog i ddefnyddio'r Sherpa. Mae modd gweld a lawrlwytho amseroedd o wefan Sherpa'r Wyddfa.

Gallwch brynu eich tocyn ar y bws gyda siwrne byr unffordd yn dechrau o £1. Mae’r gwasanaeth yn gweithredu’n aml yn ystod yr oriau brig ac mae gwasanaethau rheolaidd ar gael ar amseroedd eraill. 

Mae darparwyr tacsi lleol hefyd yn cynnig gwasanaethau ar hyd teithiau poblogaidd gan gynnwys CK Cabs, Snowdonia Taxi a Taxi Arfon.

Tywyswyr Mynydd

Os yn chwilio am dywysywr i'ch helpu yn y mynyddoedd yna ewch i'n tudalen gweithgareddau. Mae digon o ddewis ar gael yn cynnwys RAW Adventures, Gradient AdventureBach Ventures.

Trefnu Digwyddiadau a Chystadlaethau

Mae diddordeb yn a’r amrywiaeth o weithgareddau digwyddiadau her elusennol, hamdden a threfniadol wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae nifer fawr o sefydliadau ac elusennau yn gwneud defnydd llawn o’r awyr agored yn Eryri - yn enwedig ar Yr Wyddfa ei hun. Am ragor o fanylion a chymorth ewch i wefan Parc Cenedlaethol Eryri.