Cestyll, Diwylliant a Threftadaeth

Chwech o’r goreuon yn ardal Eryri Mynyddoedd a Môr

Mae Ffordd yr Arfordir yng ngogledd Cymru yn frith o safleoedd hanesyddol. Fe ddowch o hyd i bopeth, o gaerau nerthol canoloesol i blastai clyd - a lle arbennig iawn sy'n nodi'r man ble sylfaenwyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym wedi chwynnu trwy'r rhain i ddod o hyd i rai o'r goreuon, mewn trefn o'r gogledd i’r de, i chi gael creu eich taith dreftadaeth eich hun.

Porth y Swnt ac Ynys Enlli

Fe gewch ymgolli yn nhreftadaeth a hanes naturiol Penrhyn Llŷn yng nghanolfan ymwelwyr Porth y Swnt yn Aberdaron. Wrth chwilota’r rhan wyllt a phrydferth hon o Gymru, defnyddia'r ganolfan arloesol  arddangosfeydd rhyngweithiol trawiadol i roi darlun o bobl, llefydd a bywyd gwyllt Llŷn. Pan fyddwch yn cyrraedd gwir bendraw Llŷn, ewch ar daith mewn cwch i Ynys Enlli, lle mae treftadaeth a natur yn byw'n gytûn - gelwir y warchodfa natur hon hefyd yn 'Ynys yr 20,000 o Saint' oherwydd bod yno doreth o safleoedd crefyddol hynafol.

Aberdaron

Plas yn Rhiw, ger Aberdaron

Nefoedd i arddwyr. Mae’r plasty cerrig hudolus hwn yn berchen i'r Ymddiriedolaeth ac yn edrych dros fae Porth Neigwl. Mae'r golygfeydd yn wyllt (gelwir Porth Neigwl, sy'n le stormus iawn, yn Hell's Mouth yn Saesneg, a hynny am reswm da iawn) ond mae'r gerddi, a gafodd eu gadael i dyfu'n wyllt ar un adeg, fel pin mewn papur, yn gasgliad o nodweddion ffurfiol, dolydd blodau gwyllt a pherllannau, a'u lliwiau llachar yn newid gyda'r tymhorau. 

Plas yn Rhiw

Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog

Dyma gelfyddyd, y tu mewn a'r tu allan. Saif y plasty Fictoraidd Gothig hwn, sy'n adeilad rhestredig Gradd II*, mewn 12 acer o erddi a choetir iraidd. Mae'n gartref i ganolfan ddiwylliannol ac oriel fywiog lle cewch weld y gorau o gelfyddyd gyfoes Cymru, chwilota drwy hanes lleol a gwylio perfformiadau theatr awyr agored. 

Tin Man, Llanbedrog

Castell Cricieth

Nid oes lleoliad glan môr mwy trawiadol na lleoliad Castell Cricieth. Saif ar bentir uchel yn edrych dros Fae Ceredigion, ac mae'n hawdd gweld pam fod Llywelyn Fawr, Llywelyn ap Iorwerth, tywysog Cymru, wedi dewis adeiladu caer yn y fan hon. Oherwydd lleoliad strategol y castell, ymladdodd y Cymry a'r Saeson yn dreisgar i'w feddiannu dros y canrifoedd - ac mae olion y brwydro i'w gweld.

Castell Harlech

Gyda'i furiau cadarn yn codi o glogwyn serth, mae Castell Harlech yr un mor fawreddog heddiw ag yr oedd pan orffennwyd ei adeiladu yn 1295. Nid oes ryfedd ei fod wedi cael ei ddynodi'n Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Mae tyrau'r castell mor uchel eu bod bron yn crafu'r awyr ac yn lleoliad da i weld mynyddoedd ac arfordir Eryri, tra bod canolfan ymwelwyr newydd yn dwyn bywyd i hanes y safle dylanwadol hwn gyda'i harddangosfeydd rhyngweithiol.

Castell Harlech Castle

Dinas Oleu, Abermaw

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol pan dderbyniodd ei ddarn o dir cyntaf ar 29 Mawrth, 1895, 4.5 acer o lechwedd eithinog yn edrych dros Abermaw ac Aber Mawddach. Yn rhodd gan ddyngarwraig lleol, Fanny Talbot, rhaid dilyn llwybr serth o Abermaw i gyrraedd y lleoliad arbennig hwn sy'n codi'r ysbryd. Yn ogystal â'r golygfeydd trawiadol, mae llefydd diddorol ar y daith, yn cynnwys Tŷ'n Ffynnon, cartref Fanny Talbot ar un adeg. 

Barmouth Bridge © Crown Copyright (2016) Visit Wales